Ardal yng ngogledd Caerdydd ydy'r Mynydd Bychan (Saesneg: Heath).
Mae'r rhan fwyaf o dai yr ardal yn rhai led-wahân, dosbarth canol, a adeiladwyd yn ystod y 1920au–1950au. Adeiladwyd Ysbyty Athrofaol Cymru ar hen safle Coedwig Mynydd Bychan yn yr 1960au, felly mae'r rhanfwyaf o lefydd gwyrdd yr ardal wedi diflannu. Mae Parc Mynydd Bychan wedi goroesi fodd bynnag, gyda choed a glaswellt, cyfleusterau chwaraeon a rheilffordd stêm ar raddfa fechan.
Math | cymuned, maestref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Dinas a Sir Caerdydd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.511°N 3.199°W |
Cod SYG | W04000848 |
Yng nghyfrifiad 2011 nodwyd bod 1,422 o'r boblogaeth dros dair blwydd oed yn medru'r Gymraeg. Y ffigwr cyfatebol yng nghyfrifiad 2001 oedd 1,378. O ran canran y siaradwyr, fodd bynnag, gwelwyd cwymp rhwng 2001 a 2011 (12.1%>11.7%). Esbonnir hyn gan ostyngiad yn nifer y siaradwyr dros 65 oed; cafwydd cynnydd yn y grwpiau oedran 3–15 a 16–64.
Lleolir Ysgol Mynydd Bychan (ysgol gynradd Gymraeg) yn ardal Gabalfa i'r de o'r Mynydd Bychan.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Y Mynydd Bychan, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.