Ardal a chymuned yng ngorllewin Caerdydd yw Treganna (Saesneg: Canton).
Math | maestref, cymuned |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Dinas a Sir Caerdydd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.48°N 3.21°W |
Cod SYG | W04000840 |
Cod OS | ST164767 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Mark Drakeford (Llafur) |
AS/au | Kevin Brennan (Llafur) |
Nid yw tarddiad yr enw Treganna yn glir, ond dywed rhai ei fod yn deillio o enw Santes Canna, santes yn y chweched ganrif o dde Cymru (merch i nai'r Brenin Arthur yn ôl y chwedl). Digwydd yr elfen canna yn enw'r ardal gyfagos Pontcanna hefyd.
Ar lafar mae'r enwau Treganna/Canton yn cyfeirio at ardal llawer mwy eang na'r gymuned swyddogol gan gyfateb a'r plwyf eglwysig o'r un enw.
Y brif heol yw Heol Ddwyreiniol y Bont-faen: arni y mae llawer o siopau, bwytai a chaffis. Mae sawl parc yn yr ardal, gan gynnwys Parc Fictoria, Parc Thompson a Pharc y Jiwbilî. Mae Canolfan Gelfyddydau Chapter (a agorwyd yn 1971 ar hen safle Ysgol Uwchradd Cantonian) yn un o'r prif atyniadau.
Mae nifer o addoldai yn Nhreganna, gan gynnwys Salem, un o gapeli Cymraeg Eglwys Bresbyteraidd Cymru.
Mae gan Dreganna ddau stadiwm chwaraeon nodedig, sef Stadiwm Dinas Caerdydd (cartref C.P.D. Dinas Caerdydd) a Stadiwm Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd (stadiwm athletau).
Daeth Treganna yn rhan o Gaerdydd yn 1875.
Yng nghyfrifiad 2011 nodwyd bod 19.1% o'r boblogaeth dros dair blwydd oed yn medru'r Gymraeg, sef 2,625 o bobl. Roedd hyn yn gynnydd arwyddocaol ar ffigyrau cyfrifiad 2001, sef 15.6% a 1,964.
Mae dwy ysgol gynradd Gymraeg yn Nhreganna, sef Ysgol Gymraeg Pwll Coch ac Ysgol Gymraeg Treganna. Un addoldy Cymraeg sydd yn y gymuned, sef Salem, un o gapeli Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Adeiladwyd addoldy presennol y Cardiff Chinese Christian Church (Heol Llandaf) yn gapel i'r Bedyddwyr Cymraeg, ond troes yr iaith i'r Saesneg ar ddiwedd y 19g.
Yng nghyfrifiad 2011 cafwyd yr ystadegau a ganlyn:
Yn ogystal â'r ddwy ysgol gynradd Gymraeg (Ysgol Gymraeg Pwll Coch ac Ysgol Gymraeg Treganna), mae dwy ysgol gynradd Saesneg hefyd, sef Ysgol Gynradd Lansdowne ac Ysgol Gynradd Radnor. Un ysgol uwchradd sydd yn y gymuned, sef Ysgol Uwchradd Fitzalan.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Treganna, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.