Grangetown: Ardal a chymuned yng Nghaerdydd

Ardal a chymuned yng Nghaerdydd yw Grangetown.

Mae'n un o faestrefi mwyaf Caerdydd, ac mae'n ffinio ag ardaloedd Glan'rafon, Treganna a Thre-Biwt. Mae Afon Taf yn nadreddu drwy'r ardal. Fe'i datblygwyd gan deulu Winsdor-Clive, yn bennaf. Gyferbyn ag ardal Bae Caerdydd, mae Grangetown wedi ennill o'r datblygiadau a welwyd yno'n ddiweddar, gan gynnwys adeiladau newydd a gwasanaethau megis cysylltiadau trafnidiaeth gwell.

Grangetown
Grangetown: Enwau Cymraeg, Cyfrifiad 2011, Gweler hefyd
Mathcymuned, maestref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDinas a Sir Caerdydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.4675°N 3.1853°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000847 Edit this on Wikidata
Systemau newydd i reoli glaw yn Grangetown, Caerdydd sydd yn glanhau dŵr glaw ac yn ei anfon yn syth i Afon Taf yn hytrach na'i bwmpio dros 8 milltir drwy Fro Morgannwg i’r môr.
Grangetown: Enwau Cymraeg, Cyfrifiad 2011, Gweler hefyd
Gweithfeydd Nwy, Grangetown

Roedd gan Grangetown boblogaeth o 18,362 mewn 8,261 aelwyd adeg cyfrifiad 2011. Mae'n ardal amrywiol ac amlddiwylliannol, gyda phoblogaeth sylweddol o bobl o dras Somaliaidd, Asiaidd, a thras cymysg. Mae'n gartref i deml Hindŵ mwyaf Caerdydd, ac amryw o fosgiau gan gynnwys mosg newydd Abu Bakkar.

Enwau Cymraeg

Grangetown yw'r enw safonol yn y Gymraeg. Mae'r enw'n cyfeirio at ystad neu grange a oedd yn eiddo gynt i Abaty Margam. Mae hen ffermdy y Grange, sydd â'i wreiddiau yn yr Oesoedd Canol, yn dal i'w weld ar gornel Clive Street a Stockland Street. Daeth yr enw Grangetown i fodolaeth yn 19g pan godwyd maestref newydd ar y tir o amlgylch y ffermdy.

Yn Gymraeg, gwelir weithiau yr amrywiadau Y Grange (sy'n dyddio'n ôl i'r 19g) ac Y Grenj – mae'r ddau'n cyfateb i'r Saesneg The Grange. Mae Owen John Thomas wedi arfer y ffurf Y Grange Mawr, sydd o bosibl yn dangos dylanwad ffurfiau Saesneg hynafol megis Mor Grange a Grange Moor.

Mae'r enwau Trelluest, Trefaenor a Trefynach yn fathiadau diweddar heb seiliau hanesyddol. Yr hanesydd John Davies a fathodd Trelluest ar sail enwau yng Ngheredigion a gynhwysai'r elfen lluest yn yr ystyr 'cartref dros dro'. Ond fel y dywed Elwyn Davies, ‘Lluest is not known as a name for a township or other administrative area, or for a grange of a monastery. Nor has it been traced as a place-name to such early dates [hynny yw, yr Oesoedd Canol].'

Grangetown yw'r ffurf a ddefnyddir gan Wyddoniadur Cymru (t. 118) ond mae hefyd yn cydnabod bolodaeth y ffurf Trelluest.

Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Grangetown (pob oed) (19,385)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Grangetown) (1,867)
  
10.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Grangetown) (11520)
  
59.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Grangetown) (2,441)
  
29.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Dolenni Allanol

Tags:

Grangetown Enwau CymraegGrangetown Cyfrifiad 2011Grangetown Gweler hefydGrangetown CyfeiriadauGrangetown Dolenni AllanolGrangetownAfon TafBae CaerdyddCaerdyddGlan'rafonTre-BiwtTreganna

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Aneurin BevanRhyfel Annibyniaeth AmericaDinas GazaKatell KeinegGambloRhif Llyfr Safonol RhyngwladolAugusta von ZitzewitzTwo For The MoneyIn My Skin (cyfres deledu)NovialRhifau yn y GymraegComo Vai, Vai Bem?InterstellarRhyfel Gaza (2023‒24)XHamsterBerliner FernsehturmAfter EarthPen-y-bont ar OgwrNia Ben AurAfon WysgY Blaswyr FinegrLlanfair Pwllgwyngyll24 EbrillAdar Mân y MynyddComin WicimediaAfon Gwendraeth FawrGwenallt Llwyd IfanChalis KarodGwybodaethElipsoidHamletHunan leddfuMerched y WawrLleuwen SteffanBeauty ParlorPussy RiotMoliannwnDurlifPlas Ty'n DŵrY Brenin ArthurVin DieselDreamWorks PicturesO. J. SimpsonShardaSefydliad WikimediaWicipediaRhyw llawMark DrakefordSupport Your Local Sheriff!Angela 2FfisegNaked SoulsEiry ThomasAfon TeifiRhestr dyddiau'r flwyddynUnol Daleithiau AmericaFuk Fuk À BrasileiraDynesTânIaithPerlysiau🡆 More