Hindŵaeth

Hindŵaeth yw crefydd gynhenid isgyfandir India a phrif grefydd India ei hun heddiw.

Mae’n un o'r crefyddau hynaf a gychwynodd ryw bedair mil o flynyddoedd yn ôl.

Hindŵaeth
Hindŵaeth
Defod briodasol
Enghraifft o'r canlynolcrefydd, grwp crefyddol mawr, ffordd o fyw, diwylliant, exonym Edit this on Wikidata
Mathcrefyddau India, crefydd y werin, crefydd y wladwriaeth Edit this on Wikidata
Dechrau/SefydluUnknown Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganhistorical Vedic religion Edit this on Wikidata
Olynwyd ganBwdhaeth, Jainiaeth, Siciaeth Edit this on Wikidata
Lleoliadledled y byd Edit this on Wikidata
Yn cynnwysenwad Hindwaidd Edit this on Wikidata
Enw brodorolहिन्दूधर्मः Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Bydd rhai o ddilynwyr y grefydd hon yn addoli un duw yn unig, ond bydd eraill yn addoli llawer. Y duw pwysicaf oll yw Brahman, ond nid yw’n bosibl i neb ei addoli yn uniongyrchol; mae’n rhaid agosáu ato drwy gyfrwng duwiau eraill megis Brahma y Creawdwr, Sifa y Dinistriwr neu Fisnw y Ceidwad sydd hefyd yn dduw cariad.

Cred yr Hindŵ fod gan ddyn atman oddi wrth Brahman, sef yr enaid tragwyddol sydd yn llifo drwy bob math o fywyd, boed anifail neu lysieuyn. Gall yr enaid hwn gael ei aileni mewn gwahanol ffurfiau dro ar ôl tro yn unol â chyfundrefn o wobrwyo a chosbi a elwir karma.

Os bu bywyd dyn yn ddrwg, mae'n debyg mai fel planhigyn neu anifail y bydd ei enaid yn ailymddangos, a bydd yn rhaid i’r enaid wneud hyn sawl gwaith cyn cael trigo mewn corff dynol eilwaith. Os bu bywyd dyn yn un da a rhinweddol, bydd ei enaid yn symud yn agosach at yr hapusrwydd a ddaw o fod gyda Brahman.

Maent hefyd yn addoli mewn Mandir, sef math o deml.

Yn fyr

Mae Hindŵaeth hefyd yn dharma, sef ffordd o fyw. Hi yw trydydd crefydd fwyaf y byd, gyda dros 1.2 biliwn o ddilynwyr, neu 15–16% o'r boblogaeth fyd-eang, a elwir yn Hindwiaid. Mewn cymhariaeth, yr ail fwyaf yw Islam gydag 1.9 biliwn o ddilynwyr a Christnogaeth sydd a 2.4 biliwn o aelodau.

Hindŵaeth 
Dathlu 'Holi' yn Nheml Sri Radha Krishna Utah, Utah, UDA (2013)

Mae'r gair Hindŵ yn tarddu o'r gair Sansgrit Sindhu sef Afon Indus. Tra bod Hindŵaeth wedi cael ei alw'n grefydd hyna'r byd,[note 4] mae llawer o ymarferwyr yn cyfeirio at eu crefydd fel Sanātana Dharma (Sansgrit: सनातन धर्म; y Dharma Tragwyddol), sy'n cyfeirio at y syniad bod ei darddiad y tu hwnt i hanes dyn, fel sy'n cael ei ddatgan yn y testunau Hindŵaidd. Hunan-ddynodiad arall, er yn llai ffit, yw Vaidika dharma, y 'dharma sy'n gysylltiedig â'r Veda.'

Mae Hindŵaeth yn system o feddwl amrywiol iawn, gydag athroniaethau a chysyniadau sy'n gyffredin i lawer o wledydd, defodau, systemau cosmolegol, safleoedd pererindod, ffynonellau testunol, metaffiseg, mytholeg, yajna Vedig, ioga, defodau agamic, ac adeiladu temlau, ymhlith pynciau eraill. Ymhlith y themâu amlwg yng nghredoau Hindŵaidd mae pedwar Puruṣārthas, nodau neu nodau priodol bywyd dynol; sef, dharma (moeseg / dyletswyddau), artha (ffyniant / gwaith), kama (dymuniadau / nwydau) a moksha (rhyddhad / rhyddid rhag y nwydau a chylch marwolaeth ac aileni), yn ogystal â karma (gweithredu, bwriad a chanlyniadau) a saṃsāra (cylch marwolaeth ac aileni). Mae Hindŵaeth yn pwysleisio dyletswyddau tragwyddol, fel gonestrwydd, ymatal rhag anafu bodau byw (Ahiṃsā), amynedd, goddefgarwch, hunan-ataliaeth, rhinwedd a thosturi ac eraill. Mae arferion Hindŵaidd yn cynnwys defodau fel puja (addoli) a datganiadau, japa, myfyrdod (dhyāna), defodau newid byd (rites of passage) sy'n deulu-ganolog, gwyliau blynyddol, ac ambell bererindod. Ynghyd ag arferion amrywiol fel ioga, mae rhai Hindwiaid yn gadael eu byd cymdeithasol a'u heiddo materol ac yn cymryd rhan mewn Sannyasa (mynachaeth) gydol oes er mwyn cyflawni moksha.

Mae testunau Hindŵaidd yn cael eu dosbarthu i ddau grwp: Śruti ("clywed") a Smṛti ("cofio"), a'u prif ysgrythurau yw'r Veda, yr Upanishads, y Purānas, y Mahābhārata, y Rāmāyana, a'r Āgamas. Ceir chwe ysgol athroniaeth Hindŵ a elwir yn āstika, sy'n cydnabod awdurdod y Vedas, sef Sānkhya, Ioga, Nyāya, Vaisheshika, Mimāmsā a Vedanta . Mae'r gronoleg Puranig yn cyflwyno achau o filoedd o flynyddoedd, gan ddechrau gyda'r rishis Vedig, ond mae ysgolheigion yn ystyried Hindŵaeth fel ymasiad neu synthesis o orthopraxy Brahmanaidd gyda diwylliannau Indiaidd amrywiol, â gwreiddiau amrywiol a dim sylfaenydd penodol. Daeth y synthesis Hindŵaidd hwn i'r amlwg ar ôl y cyfnod Vedic, rhwng c. 500 –200 BCE ac c. 300 CE, yng nghyfnod yr Ail Drefoli a chyfnod clasurol cynnar Hindŵaeth, pan gyfansoddwyd yr Epics a'r Purānas cyntaf. Ffynnodd yn y cyfnod canoloesol, gyda dirywiad Bwdhaeth yn India.

Ar hyn o bryd, y pedwar enwad mwyaf o fewn Hindŵaeth yw Vaishnavism, Shaivism, Shaktism a Smartism. Mae ffynonellau awdurdod a gwirioneddau tragwyddol yn y testunau Hindŵaidd yn chwarae rhan bwysig, ond ceir traddodiad Hindŵaidd cryf hefyd o gwestiynu awdurdod er mwyn dyfnhau dealltwriaeth o'r gwirioneddau hyn a datblygu'r traddodiad ymhellach. Hindŵaeth yw'r ffydd a broffesir fwyaf eang yn India, Nepal a Mauritius. Mae nifer sylweddol o gymunedau Hindŵaidd i'w cael yn Ne-ddwyrain Asia gan gynnwys yn Bali, Indonesia, y Caribî, Gogledd America, Ewrop, Oceania, Affrica, a rhanbarthau eraill .

Diffiniadau

Mae Hindŵaeth yn cynnwys amrywiaeth o syniadau ar ysbrydolrwydd a thraddodiadau, ond nid oes ganddo drefn eglwysig, dim awdurdod crefyddol diamheuol, dim corff llywodraethu, dim proffwyd/i nac unrhyw lyfr sanctaidd penodol. Gall Hindwiaid ddewis bod yn amldduwiol, pantheistig, panentheistig, pandeistig, henotheistig, monotheistig, monistig, agnostig, anffyddiol neu ddyneiddiol. Yn ôl Doniger, "mae syniadau am holl brif faterion ffydd a ffordd o fyw - llysieuaeth, di-drais, cred mewn aileni, hyd yn oed cast - yn destunau dadl, ac nid dogma."

Oherwydd yr ystod eang o draddodiadau a syniadau a gwmpesir gan y term Hindŵaeth, mae'n anodd dod o hyd i ddiffiniad cynhwysfawr. Mae'r grefydd "yn gwadu ein hawydd i'w diffinio a'i chategoreiddio". Diffiniwyd Hindŵaeth yn amrywiol fel crefydd, fel traddodiad crefyddol, ac fel set o gredoau crefyddol, ac fel "ffordd o fyw". O safbwynt geirfa'r Gorllewin, cyfeirir at Hindŵaeth fel 'crefydd', ond yn India, caiff ei diffionio'n amlach fel dharma, sy'n ehangach na chrefydd y Gorllewin.

Mae'r astudiaeth o India, ei diwylliannau a'i chrefyddau, a'r diffiniad o "Hindŵaeth", wedi cael eu llunio gan fuddiannau gwladychiaeth a chan syniadau Gorllewinol am grefydd. Ers y 1990au, mae'r dylanwadau hyn wedi bod yn destun dadl ymhlith ysgolheigion Hindŵaidd, ac maent hefyd wedi beirniadu gogwydd y gorllewin ar India.

Diffiniadau cyfreithiol

Diffinnir Hindŵaeth yng Nghyfraith India fel us sy'n: "Derbyn y Veda gyda pharch; cydnabyddiaeth o'r ffaith bod y modd neu'r ffyrdd i Moksha yn amrywiol; a sylweddoliad o'r gwir bod nifer y duwiau i'w haddoli yn fawr".

Barn ysgolheigaidd

Bathwyd y term Hindŵaeth yn ethnograffeg y Gorllewin yn y 18g, ac mae'n cyfeirio at ymasiad neu synthesis amrywiol ddiwylliannau a thraddodiadau Indiaidd, gyda gwreiddiau amrywiol a dim sylfaenydd. Daeth y synthesis Hindŵaidd hwn i'r amlwg ar ôl y cyfnod Vedig, rhwng c. 500 –200 CC a c. 300 OC, yng nghyfnod yr Ail Drefoli a chyfnod clasurol cynnar Hindŵaeth, pan gyfansoddwyd yr Epics a'r Puranas cyntaf. Ffynnodd yn y cyfnod canoloesol, gyda dirywiad Bwdhaeth yn India. Mae goddefgarwch Hindŵaeth i amrywiadau mewn cred a'i ystod eang o draddodiadau yn ei gwneud hi'n anodd ei ddiffinio fel crefydd yn ôl diffiniadau traddodiadol y gorllewin.

Amrywiaeth ac undod

Amrywiaeth

Hindŵaeth 
Ganesha yw un o'r duwiau mwyaf adnabyddus a mwyaf addoledig yn y pantheon Hindŵaidd.

Mae credoau Hindŵaidd yn helaeth ac yn amrywiol iawn, ac felly cyfeirir at Hindŵaeth yn aml fel teulu o grefyddau yn hytrach nag un grefydd. O fewn pob crefydd yn y teulu hwn o grefyddau, mae yna wahanol ddiwinyddiaeth, arferion, a thestunau cysegredig. Nid oes gan Hindŵaeth "system gred unedig wedi'i hamgodio mewn datganiad o ffydd neu gredo", ond yn hytrach mae'n derm ymbarél sy'n cynnwys lluosogrwydd ffenomenau crefyddol India. Yn ôl Goruchaf Lys India,

Yn wahanol i grefyddau eraill yn y Byd, nid yw'r grefydd Hindŵaidd yn hawlio un Proffwyd, nid yw'n addoli unrhyw un Duw, nid yw'n credu mewn unrhyw un cysyniad athronyddol ac nid yw'n dilyn unrhyw un ddefod neu berfformiad/au crefyddol; mewn gwirionedd, nid yw'n bodloni nodweddion traddodiadol crefydd na chredo. Mae'n ffordd o fyw a dim byd mwy ".

Undod

Er gwaethaf y gwahaniaethau, mae yna ymdeimlad o undod hefyd. Mae'r rhan fwyaf o draddodiadau Hindŵaidd yn parchu corff o lenyddiaeth grefyddol neu gysegredig, y Vedas, er bod eithriadau. Mae'r testunau hyn yn ein hatgoffa o'r dreftadaeth ddiwylliannol hynafol ac maent yn destun balchder i Hindwiaid, gyda Louis Renou yn nodi "hyd yn oed yn y parthau mwyaf uniongred, mae'r parch i'r Vedas yn amlwg".

Credoau

Hindŵaeth 
Cerflun ar banel wal yn nheml Hoysaleswara yn Halebidu, yn cynrychioli'r Trimurti: Brahma, Shiva a Vishnu

Mae themâu amlwg yng nghredoau Hindŵaidd yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) Dharma (moeseg / dyletswyddau), saṃsāra (cylch parhaus ymglymiad mewn nwydau a'r enedigaeth, bywyd, marwolaeth ac aileni sy'n deillio o hynny), Karma (gweithredu, bwriad, a chanlyniadau ), moksha (rhyddhad rhag ymlyniad a saṃsāra), a'r amrywiol iogas (llwybrau neu arferion).

Purusharthas

Mae Purusharthas yn cyfeirio at amcanion bywyd dynol. Mae meddwl Clasurol Hindŵaidd yn derbyn pedwar nod neu nod cywir ym mywyd dynol, a elwir yn Puruṣārthas:

  • Dharma ,
  • Artha ,
  • Kama, a
  • Moksha .

Dharma (cyfiawnder, moeseg)

Ystyrir Dharma fel y nod mwyaf blaenllaw mewn Hindŵaeth. Mae'r cysyniad o dharma yn cynnwys ymddygiadau yr ystyrir eu bod yn unol ag rta, y drefn sy'n gwneud bywyd a bydysawd yn bosibl, ac mae'n cynnwys dyletswyddau, hawliau, deddfau, ymddygiad, rhinweddau a "ffordd gywir o fyw". Mae dharma Hindŵaidd yn cynnwys dyletswyddau crefyddol, hawliau moesol a dyletswyddau pob unigolyn, ynghyd ag ymddygiadau sy'n galluogi trefn gymdeithasol, ymddygiad cywir, a rhai rhinweddol. Dharma, yn ôl Van Buitenen, yw'r hyn y mae'n rhaid i bob bod dynol presennol ei dderbyn a'i barchu i gynnal cytgord a threfn yn y byd.

Artha (bywoliaeth, cyfoeth)

Artha yw'r ymgais rhinweddol i gael cyfoeth materol, bywoliaeth, rhwymedigaethau a ffyniant economaidd. Mae'n cynnwys bywyd gwleidyddol, diplomyddiaeth a lles materol. Mae'r cysyniad artha yn cynnwys yr holl "ffyrdd o fyw", gweithgareddau ac adnoddau sy'n galluogi person i fod mewn cyflwr arbennig: cyfoeth, gyrfa a diogelwch ariannol. Mae mynd ar drywydd artha yn iawn yn cael ei ystyried yn nod pwysig ym mywyd dynol mewn Hindŵaeth.

Kāma (pleser y synhwyrau)

Mae Kāma (Sansgrit, Pali: काम) yn golygu awydd, awch, dymuniad, angerdd, hiraeth, pleser y synhwyrau, mwynhad esthetig bywyd, hoffter, neu gariad, gyda neu heb yr ochr rhywiol. Mewn Hindŵaeth, mae kama yn cael ei ystyried yn nod hanfodol ac iach ym mywyd dynol cyn belled nad yw'r person yn aberthu dharma, artha a moksha.

Mokṣa (rhyddhad, rhyddid rhag saṃsāra)

Moksha (Sansgrit: मोक्ष; Mokṣa) neu mukti (Sansgrit: मुक्ति) yw'r nod eithaf, pwysicaf yn Hindŵaeth. Ar un ystyr, mae moksha yn gysyniad sy'n gysylltiedig â rhyddhau rhag tristwch, dioddefaint a saṃsāra (cylch aileni genedigaeth). Gelwir rhyddhau o'r cylch hwn, ar ôl bywyd, yn enwedig yn ysgolion damcaniaethol Hindŵaeth yn moksha. Ystyrir marwolaeth yn ddibwys mewn perthynas â'r Hunan cosmig.

Karma a saṃsāra

Mae Karma yn cyfieithu'n llythrennol fel gwaith, neu weithred, ac mae hefyd yn cyfeirio at theori Vedig o "gyfraith foesol achos ac effaith". Mae'r theori yn gyfuniad o (1) achosiaeth a all fod yn foesegol neu'n an-foesegol; (2) moeseg, hynny yw gweithredoedd da neu ddrwg sy'n arwain at ganlyniadau; a (3) aileni. Dehonglir theori Karma fel un sy'n egluro amgylchiadau presennol unigolyn gan gyfeirio at ei weithredoedd yn y gorffennol. Gall y gweithredoedd hyn a'u canlyniadau fod ym mywyd cyfredol unigolyn, neu, yn ôl rhai ysgolion Hindŵaidd, ym mywydau'r gorffennol. Gelwir y cylch hwn o eni, bywyd, marwolaeth ac aileni yn saṃsāra. Credir bod rhyddhau o saṃsāra trwy moksha yn sicrhau hapusrwydd a heddwch parhaol. Mae ysgrythurau Hindŵaidd yn dysgu bod y dyfodol yn swyddogaeth o ymdrech ddynol gyfredol sy'n deillio o ewyllys rydd a gweithredoedd dynol yn y gorffennol sy'n gosod yr amgylchiadau.

Y cysyniad o Dduw

Mae Hindŵaeth yn system amrywiol o feddwl gydag amrywiaeth eang o gredoau; mae ei gysyniad o Dduw yn gymhleth ac yn dibynnu ar bob unigolyn a'r traddodiad a'r athroniaeth a ddilynir. Cyfeirir ato weithiau fel henotheistig (h.y., yn ymwneud ag ymroddiad i dduw sengl wrth dderbyn bodolaeth eraill), ond mae unrhyw derm o'r fath yn llawer rhy syml.

Mae'r Nasadiya Sukta (Emyn y Creu) o'r Rig Veda yn un o'r testunau cynharaf sy'n "dangos ymdeimlad o ddyfalu metaffisegol" am yr hyn a greodd y bydysawd, y cysyniad o dduw (iau) Yr Un, ac a yw hyd yn oed Yr Un yn gwybod sut y daeth y bydysawd i fodolaeth. Mae'r Rig Veda yn canmol nifer o dduwdodau (neu fân dduwiau), dim un ohonyn nhw'n uwchraddol nac yn israddol, mewn modd henotheistig. Mae'r emynau yn cyfeirio dro ar ôl tro at Un Gwirionedd ac un Realaeth Eithaf. Dehonglwyd "Un Gwirionedd" o fewn llenyddiaeth Vedig, yn ysgolheictod yr oes fodern, fel undduwiaeth, monistiaeth, yn ogystal ag Egwyddorion Cudd y tu ôl i ddigwyddiadau a phrosesau mawr natur.

xxx Mae Hindwiaid yn credu bod gan bob creadur byw 'Yr Hunan' (tebyg i 'Enaid'). Gelwir y gwir "Hunan" hwn o bob person yn ātman . Credir bod yr Hunan yn dragwyddol. Yn ôl diwinyddiaeth monistig / pantheistig (di-ddeuol) Hindŵaidd, mae'r Atman hwn yn wahanol i Brahman, yr ysbryd goruchaf neu'r Realiti Ultimate. Nod bywyd, yn ôl ysgol Advaita, yw sylweddoli bod Hunan rhywun yn union yr un fath â Hunan y goruchaf, bod yr Hunan goruchaf yn bresennol ym mhopeth a phawb, mae'r holl fywyd yn rhyng-gysylltiedig ac mae undod ym mhob bywyd. Mae ysgolion deuistig (Dvaita a Bhakti) yn dehongli Brahman fel y Bod Goruchaf sydd ar wahân i'r Hunan unigol. Maent yn addoli'r Bod Goruchaf fel Vishnu, Brahma, Shiva, neu Shakti, yn dibynnu ar y sect. Gelwir Duw yn Ishvara, Bhagavan, Parameshwara, Deva neu Devi, ac mae gan y termau hyn wahanol ystyron mewn gwahanol ysgolion Hindŵaeth.

Prif draddodiadau

Enwadau

Hindŵaeth 
Panchayatana Ganesha-ganolog ("pum duwdod", o'r traddodiad Smarta): Ganesha (canol) gyda Shiva (chwith uchaf), Parvati (dde uchaf), Vishnu (chwith isaf) a Surya (dde isaf). Mae gan yr holl dduwdodau hyn sectau ar wahân wedi'u cysegru iddynt hefyd.

Nid oes gan Hindŵaeth awdurdod athrawiaethol canolog ac nid yw llawer o Hindwiaid sy'n ymarfer yn honni eu bod yn perthyn i unrhyw enwad neu draddodiad penodol. Fodd bynnag, defnyddir pedwar enwad mawr mewn astudiaethau ysgolheigaidd: Vaishnavism, Shaivism, Shaktism a Smartism. Mae'r enwadau hyn yn wahanol i'w gilydd, yn bennaf o ran y duwdod canolog a addolir, y traddodiadau a'r rhagolwg Mae enwadau Hindŵaeth, dywed Lipner, yn wahanol i'r rhai a geir ym mhrif grefyddau'r byd, oherwydd bod enwadau Hindŵaidd yn niwlog gydag unigolion yn ymarfer mwy nag un, ac mae'n awgrymu'r term "polyganolog Hindŵaidd".

Arferion

Defodau

Hindŵaeth 
Priodas yw'r ddefod bersonol fwyaf helaeth y mae oedolyn Hindŵaidd yn ymgymryd â hi yn ei fywyd. Mae priodas Hindŵaidd nodweddiadol yn cael ei gweinyddu cyn defod tân Vedig (gw. y llun).

Mae'r rhan fwyaf o Hindwiaid yn cynnal defodau crefyddol gartref. Mae'r defodau'n amrywio'n fawr ymhlith ardaloedd, pentrefi ac unigolion. Nid ydyn nhw'n orfodol mewn Hindŵaeth. Dewis unigolyn yw natur a lle defodau. Mae rhai Hindwiaid defosiynol yn perfformio defodau dyddiol fel addoli ar doriad y wawr ar ôl cael bath (fel arfer mewn cysegr teulu, ac yn nodweddiadol mae'n cynnwys goleuo lamp ac yn cynnig bwydydd o flaen delweddau o'r duwiau), llefaru o sgriptiau crefyddol, canu bhajans (emynau defosiynol), ioga, myfyrdod, llafarganu mantras ac eraill.

Gwelir defodau Vedig gyda thân (yajna) a llafarganu emynau Vedig ar achlysuron arbennig, fel priodasau Hindŵaidd. Mae digwyddiadau mawr eraill bywyd, fel defodau ar ôl marwolaeth, yn cynnwys yajña a llafarganu mantrâu Vedig.

Mae geiriau'r mantrâu yn "sanctaidd." Wrth eu defnyddio mewn defodau Vedig maent yn dod yn synau hudol, "yn ddull i gyrraedd y nod." Yn y persbectif Brahmanaidd, mae gan y synau eu hystyr eu hunain, ystyrir mantrâu yn "rythmau cyntefig cyntaf y greadigaeth", cyn y ffurfiau y maent yn cyfeirio atynt. Trwy eu llafarganu mae'r cosmos yn cael ei adfywio, "trwy fywiogi a maethu ffurfiau'r greadigaeth yn eu sylfaen. Cyn belled â bod purdeb y synau yn cael ei gadw, bydd adrodd y mantrâu yn effeithiol, ni waeth a yw bodau dynol yn deall eu hystyr disylwedd."

Gwyliau

Hindŵaeth 
Mae gŵyl y goleuadau, Diwali, yn cael ei dathlu gan Hindwiaid ledled y byd.
Hindŵaeth 
Hindwiaid yn Ghana yn dathlu Ganesh Chaturti

Mae gwyliau Hindŵaidd (Sansgrit: Utsava ; yn llythrennol: "i godi'n uwch") yn seremonïau sy'n plethu bywyd unigol a chymdeithasol i dharma. Mae gan Hindŵaeth lawer o wyliau trwy gydol y flwyddyn, lle mae'r dyddiadau'n cael eu gosod gan y calendr Hindŵaidd lunisolar, ac mae llawer ohonynt yn cyd-daro naill ai â'r lleuad lawn (Holi) neu'r lleuad newydd (Diwali), yn aml gyda newidiadau tymhorol. Dim ond yn rhanbarthol y mae rhai gwyliau i'w cael ac maen nhw'n dathlu traddodiadau lleol, tra bod ambell un fel Holi a Diwali yn draws-Hindŵaidd. Mae'r gwyliau fel arfer yn dathlu digwyddiadau Hindŵaidd, gan gysylltu themâu ysbrydol a dathlu agweddau ar berthnasoedd dynol fel y berthynas agos Chwaer-Frawd dros ŵyl Raksha Bandhan (neu Bhai Dooj). Mae'r un ŵyl weithiau'n nodi gwahanol straeon yn dibynnu ar yr enwad Hindŵaidd, ac mae'r dathliadau'n ymgorffori themâu rhanbarthol, amaethyddiaeth draddodiadol, celfyddydau lleol, cyfarfyddiadau teuluol, defodau a gwleddoedd Puja.

Pererindota

Mae llawer o ymlynwyr yn ymgymryd â phererindodau, sydd yn hanesyddol wedi bod yn rhan bwysig o Hindŵaeth ac yn parhau felly heddiw. Ceir safleoedd pererindota yn Tirtha, Kshetra, Gopitha neu Mahalaya. Enw'r broses neu'r siwrnai sy'n gysylltiedig â Tirtha yw Tirtha-yatra. Yn ôl y testun Hindŵaidd Skanda Purana, mae tri math i Tirtha: mae Jangam Tirtha i le y gellir ei symud o sadhu, rishi, guru. Mae Sthawar Tirtha i le na ellir ei symud, fel Benaras, Haridwar, Mynydd Kailash, afonydd sanctaidd; tra bod Manas Tirtha i le o feddwl, o wirionedd, elusen, amynedd, tosturi, neu'r Hunan. Mae Tīrtha-yatra, yn unrhyw beth sydd â gwerth salvific i Hindw, ac mae'n cynnwys safleoedd pererindod fel mynyddoedd neu goedwigoedd neu lan y môr neu afonydd neu byllau, yn ogystal â rhinweddau, gweithredoedd, astudiaethau neu gyflwr meddwl.

Diwylliant

Mae'r term " diwylliant Hindŵaidd " yn cyfeirio at agweddau cymedrig ar ddiwylliant sy'n ymwneud â'r grefydd, fel gwyliau a chodau gwisg a ddilynir gan yr Hindwiaid y gellir eu hysbrydoli'n bennaf o ddiwylliant India a De-ddwyrain Asia. Er y bu cymysgedd o ddiwylliant gwahanol mewn Hindŵaeth, mae hefyd wedi dylanwadu ar ddiwylliannau llawer o genhedloedd, yn bennaf y rhan o India Fwyaf.

Darllen pellach

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Dolennau allanol




Tags:

Hindŵaeth Yn fyrHindŵaeth DiffiniadauHindŵaeth Amrywiaeth ac undodHindŵaeth CredoauHindŵaeth Prif draddodiadauHindŵaeth ArferionHindŵaeth DiwylliantHindŵaeth Darllen pellachHindŵaeth Gweler hefydHindŵaeth CyfeiriadauHindŵaeth Dolennau allanolHindŵaethCrefyddIndiaIsgyfandir India

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

RwsegH. G. WellsGwyddoniadurAmanita'r gwybedLos AngelesGwynfor EvansSefydliad WicimediaEugenie... The Story of Her Journey Into PerversionFfuglen llawn cyffroBlood Fest27 HydrefCoelcerth y GwersyllRoyal Shakespeare CompanyCrefyddFfibrosis systigRhywogaethParalelogramDillwyn, VirginiaCemeg6 AwstBBC Radio CymruPunch BrothersParamount PicturesGwasanaeth rhwydweithio cymdeithasolUndeb llafurJuan Antonio Villacañas210auGwyddbwyllPisoMalavita – The FamilyCalifforniaRussell HowardLlygoden ffyrnigLleuwen SteffanBasbousaGoleuniCeresFuerteventuraISBN (identifier)14 GorffennafY Coch a'r GwynRhyw llawAngela 2CosmetigauLladinFfotograffiaeth erotigPeredur ap GwyneddPriodas gyfunryw yn NorwyImmanuel KantAlphonse DaudetInvertigoLife Is SweetIbn Sahl o SevillaHafanWcráinSpynjBob Pantsgwâr2020Gwilym BrewysGemau Olympaidd yr Haf 2020Ar Gyfer Heddiw'r BoreCerrynt trydanolMaelström1897Big BoobsUndduwiaethFfilm gomediHuluLabordyFranz LisztDesertmartinIeithoedd GermanaiddFfrangegThe Good GirlLlanw2005🡆 More