Maestref a chymuned yng Nghaerdydd yw Rhiwbeina ( ynganiad ) (Saesneg: Rhiwbina).
Mae'n ardal ffynianus yng ngogledd y ddinas a bu'n bentref ar wahân ar un adeg.
Math | maestref, cymuned |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Dinas a Sir Caerdydd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.5211°N 3.214°W |
Cod SYG | W04000858 |
Cod post | CF14 |
Tua diwedd yr 11g, lladdwyd Iestyn ap Gwrgant, tywysog olaf Teyrnas Morgannwg, mewn brwydr yn erbyn y Normaniaid yn yr ardal. Cofir am y frwydr yn yr enw Rhyd Waedlyd, ar ffrwd fechan yn Rhiwbeina.
Yng nghyfrifiad 2011 nodwyd bod 1,433 (12.9%) o'r boblogaeth dros dair blwydd oed yn medru'r Gymraeg. Y ffigwr cyfatebol yng nghyfrifiad 2001 oedd 1,409 (12.8%).
Cynhelir gwasanaethu Cymraeg yng nghapel Methodistaidd Bethel. Bu capel Beulah (yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig) yn gapel Cymraeg yn perthyn i'r Annibynwyr, ond wedi cyfnod o weithredu'n ddwyieithog, troes i'r Saesneg yn 1898.
Bu Rhiwbeina yn gartref i nifer o unoligion amlwg yn y diwylliant Cymraeg, gan gynnwys W. J. Gruffydd, R. T. Jenkins, Iorwerth C. Peate, Kate Roberts, a Rachel Thomas.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Rhiwbeina, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.