Ardal a chymuned yn ne-ddwyrain Caerdydd yw Adamsdown.
Dywedir iddi gael ei henwi ar ôl Adam Kygnot, porthor yng Nghastell Caerdydd tua 1330.
Math | maestref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 10,371 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Dinas a Sir Caerdydd |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 106.68 ha |
Cyfesurynnau | 51.4853°N 3.1593°W |
Cod SYG | W04000837 |
Cod OS | ST196769 |
Cod post | CF24 |
Mae nifer o strydoedd yr ardal wedi eu henwi ar ôl metalau, cerrig gwerthfawr a thermau seryddol.
Lleolir nifer o sefydliadau pwysig yn yr ardal, megis Llys Ynadon, Carchar Caerdydd, Clafdy Brenhinol Caerdydd ac Ysgol Diwylliannau Celfyddydol a Diwylliannol Prifysgol De Cymru a champws Gerddi Howard Prifysgol Fetropolitan Caerdydd. Ymhlith addoldai yr ardal mae Eglwys Sant Garmon, Synagog y diwygiad a sawl teml Sikh. Yno hefyd y mae Ysgol Gynradd Adamsdown.
Adamsdown yw'r ffurf arferol yn y Gymraeg, a honno a ddefnyddir gan Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig. Mae'r Gwyddoniadur hefyd yn nodi bodolaeth y ffurf Gymraeg Waunadda (t. 117), ond ymddengys mai bathiad diweddar yw'r ffurf honno. Nid oes tystiolaeth fod Adam Kygnot (gan gymryd mai ef a roes ei enw i'r ardal) erioed wedi ei alw'n 'Adda'.
Enw Cymraeg arall sydd wedi ei ddefnyddio am yr ardal yw Y Sblot Uchaf. Yn wreiddiol fferm ydoedd y Sblot Uchaf (neu 'Upper Splott') ar safle'r Great Eastern Hotel diweddarach (a ddymchwelwyd yn 2009) ar gornel Sun Street a Metal Street.
Y ffurf Adamsdown, fodd bynnag, yw'r un arferol yn y Gymraeg fel yn y Saesneg, a honno a ddefnyddir gan Gyngor Caerdydd.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Adamsdown, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.