Ardal yn ninas Caerdydd, prifddinas Cymru, yw Y Sblot neu Sblot (Saesneg: Splott) ac ardal ddeheuol hen blwyf Y Rhath sydd wedi'i lleoli rhwng y môr a phrif lein y rheilffordd.
Agorwyd y cyntaf o feysydd awyr sifil Cymru ar Rostir Pen-Gam yn 1930 a'i chau yn 1954. Bellach, ceir yma: barciau busnes, tai, gwaith trin dŵr a Chanolfan Tennis Genedlaethol Cymru. Cwbwlhawyd Cysylltffordd Dwyrain y Bae ar ddechrau'r 2010au a disgwylir i'r ardal ddatblygu'n economaidd.
Math | maestref, cymuned |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Dinas a Sir Caerdydd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.48357°N 3.15349°W |
Cod SYG | W04001005 |
Cod OS | ST200767 |
Cod post | CF24 |
Daw'r enw o'r gair Hen Saesneg splott sy'n golygu 'darn o dir' (plot). Arosai'r enw'n fyw ar lafar yn ne-orllewin Lloegr am glwt o dir ac mae'n digwydd mewn enwau lleoedd am gaeau a ffermydd yn yr ardal honno. Dichon i'r enw tarddu o gyfnod y Normaniaid. Ei ystyr yn syml felly yw 'clwt' neu 'ddryll' o dir. Ceir manylion pellach yn llyfr Bedwyr Lewis Jones, Yn ei Elfen.
Ardal wledig a oedd yn eiddo i'r Eglwys oedd Sblot yn y Canol Oesoedd, ond erbyn 1891 roedd tai wedi eu hadeiladu ar gyfer gweithwyr gwaith dur East Moors ond caewyd y gwaith yn 1987.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Y Sblot, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.