Mae'r Eglwys Newydd (Saesneg Whitchurch) yn un o faestrefi hynaf Caerdydd.
Lleolir tua 3 milltir i'r gogledd o ganol y dref ar bwys y ffordd A470 a'r A4054. Roedd poblogaeth o 15,649 yn 2004. Mae'r faesdref yn rhan o ward Yr Eglwys Newydd a Thongwynlais.
Math | maestref, cymuned |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Dinas a Sir Caerdydd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.52°N 3.22°W |
Cod SYG | W04000866 |
Mae'r cyfanned yn ddyddio'n ôl i'r 12g, pan sefydlwyd eglwys Santes Fair gan offeiriad o Eglwys Gadeiriol Llandaf. Yr enw cynharaf a wyddwn amdano oedd Ystum Taf (neu Stuntaf yn Saesneg).
Dim ond tua 300 o bobl oedd yn byw yno ar droad yr 18g, erbyd diwedd yr 19g roedd y boblogaeth wedi codi'n aruthrol i 5,000. Ffurfiwyd Cyngor Plwyf yr Eglwys Newydd yn 1845. Rhwng 1951 a 1961, cododd y boblogaeth o 19,827 i 27,325. Llyncwyd y rhan fwyaf o'r plwyf (heblaw Tongwynlais) yn rhan o ddinas Caerdydd erbyn 1967.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Yr Eglwys Newydd, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.