Ardal a chymyned yng Nghaerdydd yw Pontcanna (hen sillafiad: Pontganna).
Gall fod ei henw'n cyfeirio at Santes Canna, santes o'r chweched ganrif o dde Cymru.
Math | cymuned, maestref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Dinas a Sir Caerdydd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.4906°N 3.2022°W |
Cod SYG | W04001002 |
'Pontaganna' - gyda threiglad oedd yr ynganiad byw fel y gwelir yn y sillafiad o 1702 mewn ewyllys ac eto yng nghofnodion Sesiwn Chwarter o 1751. Mae hyn yn dilyn yr un patrwm a: Pontgarreg, Pontgadfan, (capel y Wesleaid yn Llangadfan) a 'Threganna', ond mae 'Pontcanna' wedi hen sefydlu, bellach.
Roedd creu cymuned Pontcanna newydd yn 2016 (rhan o ardal Glan'rafon yn wreiddiol).
Mae Pontcanna yn ardal o dai teras o wahanol feintiau a adeiladwyd yn ystod Oes Fictoria. Mae bellach yn un o ardaloedd mwyaf deniadol Caerdydd ac yn cynnwys amryw o swyddfeydd a gwestai. Ar hyd Stryd Pontcanna geir amrywiaeth o gaffes a bwytai.
Lleolwyd pencadlys gyntaf S4C yng Ngerddi Sophia ym Mhontcanna yn 1982. Ceir hefyd siop lyfrau Gymraeg yn y cwarter sef Siop Caban.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Pontcanna, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.