Ardal a chymuned yng Nghaerdydd yw Glan'rafon (Saesneg: Riverside).
Math | cymuned, maestref |
---|---|
Poblogaeth | 13,771 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Dinas a Sir Caerdydd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.479°N 3.189°W |
Cod SYG | W04001003 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Mark Drakeford (Llafur) |
AS/au | Kevin Brennan (Llafur) |
Roedd cymuned Glan'rafon yn cynnwys dwy ardal dra gwahanol, sef Pontcanna i'r gogledd o Cowbridge Road East a De Glan'rafon i'r de o'r ffordd honno. Ar lafar defnyddir 'Riverside' (neu 'Glan'rafon') gan amlaf i gyfeirio at yr ail o'r ardaloedd hyn. Roedd creu cymuned Pontcanna newydd yn 2016.
Mae'r ardal i'r de o Cowbridge Road East yn cynnwys strydoedd o dai teras yn bennaf, ac fe'i nodweddir gan ei hamrywiaeth ethnig, gyda chymunedau sylweddol o bobl o dras Bangladeshaidd a Tseiniaidd, yn arbennig o gwmpas Tudor Street.
Er ei bod yn un a ardaloedd tlotaf Caerdydd, mae llawer i'w gynnig gan yr ardal, gyda nifer o siopau Tseiniaidd, Halal, Indiaidd, ac Indiaidd Gorllewinol yn gwerthu dewis eang o fwydydd. Mae Cymdeithas Marchnad Cymuned Glan'rafon wedi datblygu cryn dipyn yn y blynyddoedd diweddar, gan greu Marchnad ffermwyr ar gyfer pob dydd Sul, sydd wedi tyfu'n sylweddol.
Yng nghyfrifiad 2011 nodwyd bod 13.7% o'r boblogaeth dros dair blwydd oed yn medru'r Gymraeg, sef 1475 o bobl. Roedd hyn yn gynnydd bach ar ffigyrau cyfrifiad 2001, sef 13.4%.
Ymysg y sefydliadau Cymraeg yn yr ardal, mae siop llyfrau Cymraeg 'Caban' ar Kings Road ac adwaenir tafarn y Mochyn Du (yng Ngerddi Sophia) yn dafarn sy'n denu llawer o gwsmeriaid Cymraeg eu hiaith.
Agorodd capel Cymraeg yn Severn Road yn 1867 [1] Archifwyd 2015-02-08 yn y Peiriant Wayback.. Caeodd y capel hwnnw'n 1979 a mosg yw'r adeilad bellach.
Roedd dyfodiad stiwdio teledu HTV i Bontcanna, a gynhyrchodd raglenni Cymraeg, yn hwb i'r iaith yn yr ardal.
Mae ward Glan'rafon yn rhan o etholaeth seneddol Gorllewin Caerdydd. Mae'n ffinio â Gabalfa i'r gogledd; Cathays i'r dwyrain; Grangetown i'r de; a Threganna a Llandaf i'r gorllewin.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:
Mae'r cerddor Gwenno yn cyfeirio at strydoedd mewn ardal Glan'rafon yn ei chân Despenser St, oddi ar yr Ymbelydredd EP.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Glan'rafon, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.