Ardal ym mhrifddinas Cymru, Caerdydd yw Cyncoed.
Lleolir yng ngogledd-ddwyrain y ddinas, ac mae'n un a ardaloedd cyfoethocaf Caerdydd, a Chymru yn gyffredinol, gyda rhai o brisiau tai drystaf Cymru. Mae hefyd yn amgylchynu pentref Lakeside, lle mae stryd cyfoethocaf Caerdydd ac un o'r ysgolion mwyaf poblogaidd iw cael.
Delwedd:Cyncoed Road shops - geograph.org.uk - 126830.jpg, Rhydypennau Library Cardiff.JPG | |
Math | maestref, cymuned |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Dinas a Sir Caerdydd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.519°N 3.163°W |
Cod SYG | W04000997 |
Cod OS | ST183809 |
Adeiladwyd yr ardal yn ystod yr 20g yn bennaf, pan oedd Caerdydd yn ehangu'n sydyn. Mae'r tai yno yn gymysgedd o dai mawr ar wahân a thai ar led-wahân llai. Mae ystadau tai modern yn amgylchynnu'r ardal erbyn hyn, ac mae nifer o'r tai gwreiddiol wedi cael eu dychwel gyda sawl tŷ newydd llai yn cael eu adeiladu ar yr hen safle.
Mae gan yr ardal ganolfan siopa bychain, nifer o eglwysi, a synagog, oherywdd bod cymuned Iddewig gweddol fawr yng Nghyncoed, ac ysgolion cynradd ac uwchradd. Mae hefyd yn gartref i un o gampysau Prifysgol Fetropolitan Caerdydd a neuaddau annedd Prifysgol Caerdydd.
Mae ward etholaeth Cyncoed yn sefyll o fewn ffiniau etholaeth seneddol Canol Caerdydd. Mae'n cael ei ffinio gan Llanisien i'r gogledd-orllewin; Llys-faen i'r gogledd; Pentwyn i'r dwyrain; Pen-y-lan a Phlasnewydd i'r de; a'r Mynydd Bychan i'r gorllewin.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Cyncoed, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.