Addoldy a ddefnyddir gan gynulleidfa Iddewig yw synagog.
Yn aml mae'n gwasanaethu fel canolfan gymuedol i'r gymuned Iddewig leol hefyd. Y prif ddarn o ddodrefn yn yr adeilad yw math o gwpwrdd pren sy'n cynrychioli Arch y Cyfamod, lle cedwir sgroliau sanctaidd y Torah, llyfr sanctaidd Iddewiaeth. Er mwyn cynnal gwasanaeth yn y synagog mae'n rhaid cael deg Iddew gwrywaidd mewn oed yno, sef minyan. Caiff y gair ei ddefnyddio yn ffigurol am addoldai eraill hefyd weithiau. Mae'n well gan rai Iddewon ddefnyddio'r gair Teml yn lle synagog.
Credir fod y synagog yn tarddu o gyfnod alltudiaeth yr Iddewon ym Mabilon yn lle Teml Caersalem. Yng nghyfnod yr Henfyd yr oedd yn fan cyfarfod cyhoeddus i Iddewon lle darllenid y Torah a thrafod ei gynnwys.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Synagog, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.