Llanelli: Tref yn Sir Gaerfyrddin

Tref a chymuned yn Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Llanelli.

Dyma dref fwyaf y sir a de-orllewin Cymru, wedi'i lleoli ar aber Afon Lliedi rhyw 12 milltir i'r gorllewin o Abertawe ac rhyw 20 milltir i'r de o Gaerfyrddin. Mae Caerdydd 72.1 km i ffwrdd o Llanelli ac mae Llundain yn 281.6 km. Y ddinas agosaf ydy Abertawe sy'n 15.2 km i ffwrdd.

Llanelli
Llanelli: Hanes, Cyfrifiad 2011, Chwaraeon
Neuadd y Dre
Mathtref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth37,050 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iAgen Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.68°N 4.15°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000519 Edit this on Wikidata
Cod OSSN505005 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auLee Waters (Llafur)
AS/auNia Griffith (Llafur)
    Pwnc yr erthygl hon yw tref Llanelli. Am ddefnydd arall o'r enw Llanelli gweler y dudalen gwahaniaethu ar Lanelli.

Tyfodd y dref yn y 19g o amgylch y pyllau glo a'r gweithfeydd tun. Mae’r dref yn enwog am ei thraddodiad rygbi balch.

Mae Llanelli hefyd wedi’i hamgylchynu gan nifer o drefi a phentrefi bach a adwaenir fel Llanelli Wledig. Mae’r rhan fwyaf o'r rhain yn cael eu hystyried yn rhan o dref Llanelli.

Hanes

Diwydiant

Tyfodd Llanelli yn gyflym yn ystod y 18g a’r 19g gyda’r diwydiant glo, ac ar ôl hynny fel man cynhyrchu tunplat. Roedd y dref yn lle cynhyrchu tun arwyddocaol ar lefel ranbarthol a chafodd ei henwi'n "Tinopolis." Ers i’r diwydiannau ddechrau cau yn yr 1970au, fe ddioddefodd y dref ddirywiad economaidd parhaus. Er hynny, gwelir buddsoddiad mawr ym meysydd adloniant a thwristiaeth.

  • Marshfield
  • Batchelor Robinsons
  • Moowoods
  • Thomas & Clement
  • Gwaith y Burry
  • Yr Old Lodge
  • Fowndri Waddle
  • Yr Hen Gastell
  • Stamping (a oedd yn cynhyrchu sosbenni)

Yr Iaith Gymraeg

Sefydlwyd yr ysgol benodedig Gymraeg gyntaf gan awdurdod lleol yn Llanelli yn 1947, sef Ysgol Gymraeg Dewi Sant, Llanelli.

Yn y 1950au bu Trefor ac Eileen Beasley yn ceisio cael papur treth Cymraeg gan Gyngor Gwledig Llanelli drwy wrthod talu'r dreth hyd y caent un. Ymateb y cyngor oedd eu herlyn gan anfon y bwmbeili i mewn a gwerthu eu celfi er mwyn cael arian at y dreth. Prynnodd cyfeillion gelfi iddynt. Bu raid aros tan ganol y 1960au cyn cael statws cyfartal i'r Gymraeg pan dderbyniodd y cynghorau fod yn rhaid iddynt ddarparu rhai dogfennau yn Gymraeg.

Cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli ym 1895, 1903, 1930, 1962 a 2000.

Terfysg 1911

Ar 19 o Awst 1911 yn ystod yr streic rheilffordd ledled Prydain roedd gwrthdaro rhwng milwyr rheolaidd o Gatrawd Swydd Gaerwrangon a picedi ar y llinell rheilffordd pwysig Llanelli wedi achosi marwolaeth o ddau wrthwynebwyr ifanc, roedd yr trais a'r ysbeilio, oedd wedi mynd ymlaen am nifer o oriau o ganlyniad i difrod i siopau a ochrau'r rheilffordd ac roedd pedwar mwy o farwolaethau pan aeth wagen ar dan a ffrwydrodd. Roedd nifer o erlyniadau yn dilyn ac roedd cwestiynau wedi cael ei ofyn yn y Senedd. Ysgrifennodd Keir Hardie pamffled yn ymosod y defnydd o lluoedd arfog mewn gwrthwynebau diwydiannol, serch hyn ni chafodd lawer o effaith ar y gwleidyddiaeth lleol.

Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanelli (pob oed) (25,168)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanelli) (5,732)
  
23.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanelli) (20423)
  
81.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Llanelli) (4,833)
  
43.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Chwaraeon

Rygbi

Ffurfiwyd Clwb Rygbi Llanelli yn gynnar yn yr 1870au ac mae i'r clwb hanes anrhydeddus. Trechwyd tîm cenedlaethol Seland Newydd gan dîm rygbi Llanelli a dyma'r unig dîm lleol yng ngwledydd Prydain sydd wedi gwneud hynny.

Pêl-droed

Mae gan Llanelli dîm pêl-droed o’r enw C.P.D. Llanelli sy’n chwarae yng Nghynghrair Cymru. Maen nhw’n chwarae ar barc Stebonheath, o dan reolaeth Peter Nicholas.

Golff

Mae gan ardal Llanelli dri chwrs golff, yn cynnwys Clwb Golff a Gwledig Machynys sydd yn gartref i Gampwriaeth Merched Ewrop Cymru.

Chwaraeon modur

Gelwir Cylchdaith Penbre (Pembrey Circuit) yn gartref i chwaraeon modur yng Nghymru.

Diwylliant

Mae hanes crefydd a'r capeli yn ganolog i hanes diwylliannol Llanelli. Roedd David Rees y Cynhyrfwr yn weinidog yng Nghapel Als, Jubilee Young yn Seion Llanelli a Gwyndaf yn Tabernacl Llanelli.

Y Cyfryngau

Mae gan y dref orsaf radio o’r enw Scarlet FM.

Y Llanelli Star yw'r unig bapur wythnosol yn y dref sydd wedi goroesi. Roedd tri yn cael eu cyhoeddi yn y dref ar un adeg gan gynnwys Llanelli Mercury. Yng nghanol y 1970au dechreuwyd cyhoeddi Llanelli News ond ni pharhaodd mwy nag ychydig flynyddoedd.

Mae Llanelli'n gartref i Gwmni Teledu Tinopolis sydd yn un o’r cynhyrchwyr annibynnol mwyaf yn y Deyrnas Unedig. Dyma'r cwmni sy'n cynhyrchu'r rhaglen deledu ‘Wedi 7’ a ddarlledir ar yn fyw yn ddyddiol ar S4C.

Theatr a sinema

Agorwyd Y Ffwrnes yn hwyr yn 2012, gan ddod yn lle yr hen Theatr Elli a oedd yn ganolfan adloniant i'r dre. Cynhelir nifer o sioeau yn y theatr yn cynnwys nifer o gynyrchiadau cerddorol a dramâu gan grwpiau lleol.

Trafnidiaeth

Cysylltir y dref â thraffordd yr M4 gan yr A4138. I gyrraedd y dref oddi ar yr M4 deler oddi arni ar gyffordd 48.

Bws – Mae Llanelli yn cael ei gwasanaethu yn gyson gan wasanaethau bws lleol rhwng Abertawe a Chaerfyrddin.

Lleolir yr orsaf drenau rhyw filltir i’r de o ganol y dref. Mae trenau Llundain i Abergwaun yn mynd drwy'r orsaf hon a hefyd llinell drenau Calon Cymru o Abertawe i Amwythig.

Gwleidyddiaeth

Llanelli: Hanes, Cyfrifiad 2011, Chwaraeon 
Arfbais Cyngor Trefol Llanelli
Llanelli: Hanes, Cyfrifiad 2011, Chwaraeon 
Neuadd Tref Llanelli

Mae tref Llanelli o fewn etholaeth seneddol Llanelli ac etholaeth Cynulliad Llanelli Cynrychiolydd San Steffan yw Nia Griffith ac un y Cynulliad yw Keith Davies. Llafur (2011 - )Yn 1945 enillodd ymgeisydd Llafur (James Griffiths) y mwyafrif mwyaf yn hanes etholiadau seneddol Prydeinig (34,117)

Caiff rhan o'r dref ei llywodraethu ar lefel leol gan Gyngor Tref Llanelli a rhan gan Gyngor Gwledig Llanelli, a'r cwbl gan Gyngor Sir Gaerfyrddin ar lefel sirol.

Daeth Cyngor Tref Llanelli i rym ar 1af Ebrill, 1974. Rhennir ei hardal weinyddiaeth i 5 ward: Bigyn, Elli, Glanymor, Lliedi a Tyisha, sy'n cael eu cynrychioli gan 20 cynghorydd.

Gefeilldref Llanelli yw Agen yn Ffrainc.

Enwogion

Atyniadau lleol

Cyfeiriadau

Ffynonellau

Dolenni allanol

Tags:

Llanelli HanesLlanelli Cyfrifiad 2011Llanelli ChwaraeonLlanelli DiwylliantLlanelli TrafnidiaethLlanelli GwleidyddiaethLlanelli EnwogionLlanelli Atyniadau lleolLlanelli CyfeiriadauLlanelli FfynonellauLlanelli Dolenni allanolLlanelliAbertaweAfon LliediCaerfyrddinCilometrCymruCymuned (Cymru)LlundainSir GaerfyrddinTref

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

UsenetWashington, D.C.Lleiandy LlanllŷrCelf Cymru7fed ganrifCanadaHenry RichardC.P.D. Dinas Caerdydd1865 yng NghymruRichard ElfynURLRhestr o bobl a anwyd yng Ngogledd IwerddonIseldiregCyfarwyddwr ffilmManon RhysCyfathrach Rywiol FronnolYnniGwefanPengwinSiambr Gladdu TrellyffaintGirolamo SavonarolaBenjamin NetanyahuSimon BowerIncwm sylfaenol cyffredinol1909CyfrwngddarostyngedigaethRhyfel Sbaen ac AmericaProtonFfilm gyffroBBC CymruAil Ryfel PwnigDaniel Jones (cyfansoddwr)1800 yng NghymruMarshall ClaxtonLlŷr ForwenPatagoniaRhestr o bobl gyda chofnod ar y Bywgraffiadur Cymreig ArleinArchdderwyddWalking TallHentai365 DyddSteffan CennyddBois y BlacbordHydrefOlewyddenCerddoriaeth CymruY MedelwrJanet YellenHello Guru Prema KosameSefydliad WikimediaEtholiadau lleol Cymru 2022Rhestr baneri CymruTsunamiEthnogerddolegRhyfel yr ieithoeddAbermenaiAngela 2Krak des ChevaliersLeighton JamesAltrincham1 MaiRhestr dyddiau'r flwyddynLos Angeles1973🡆 More