Gweinidog a bardd Cymraeg oedd Evan Gwyndaf Evans neu Gwyndaf (7 Mawrth 1913 - 10 Mawrth 1986).
Bu'n weinidog yng Nghapel Tabernacl, Llanelli.
E. Gwyndaf Evans | |
---|---|
Ffugenw | Gwyndaf |
Ganwyd | 7 Mawrth 1913 |
Bu farw | 10 Mawrth 1986 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd |
Bu'n athro ysgrythyr yn Ysgol Brynrefail, Llanrug o 1957 hyd 1978.
Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1935 gyda'r gerdd Magdalen, y tro cyntaf i gerdd gynganeddol vers libre ennill y gystadleuaeth. Bu'n Archdderwydd rhwng 1966 a 1969.
Yn frodor o bentref Llanfachreth, Gwynedd, daeth i sylw Cymru fel bardd pan enillodd yr Eisteddfod Ryng-golegol yn 1934. Yn 1935 enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol am ei awdl 'Magdalen'. Bu'n Archdderwydd yr Eisteddfod Genedlaethol o 1966 hyd 1968.
Arbrofai ar ysgrifennu vers libre mewn cynghanedd ac roedd yn ganwr penillion adnabyddus hefyd. Dim ond un gyfrol o gerddi a gyhoeddodd, sef Magdalen a cherddi eraill, ond cyfrannai'n gyson i gylchgronau Cymraeg ar hyd ei oes.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article E. Gwyndaf Evans, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.