Dull o drefnu geiriau ac odl mewn barddoniaeth er mwyn iddynt swnio'n bersain ac er mwyn i'r farddoniaeth fod yn gofiadwy ydy cynghanedd.
Mae'n system o roi trefn arbennig ar gytseiniaid ac mae'n unigryw i'r Gymraeg, (er i farddoniaeth Llydaweg Canol hefyd gael system eitha tebyg). Mae'r gynghanedd fel cyfundrefn yn dyddio'n ôl i'r 14g gyda'r twf sydyn ym mhoblogrwydd mesur y cywydd, ond mae trefnu seiniau o fewn llinell a rhwng llinellau yn draddodiad llawer hŷn. Ceir cyseinedd yng ngwaith y Cynfeirdd a'r Gogynfeirdd, e.e. Hi hen eleni ganed, sy'n llinell o gynghanedd draws allan o Ganu Llywarch Hen a gyfansoddwyd, fe dybir, tua chanol y 9g, a'r llinell Gwedi boregad, briwgig o waith Taliesin (6g).
Pan fo cerdd yn cynnwys cynghanedd, dywedir ei bod yn gerdd gaeth.
Mae 4 prif fath o gynghanedd:
Mae'r pedwar prif fath o gynghanedd yn rhannu i mewn i'r is-ddosbarthiadau hyn:
Nid yw cynghanedd bengoll yn gynghanedd gywir ond rhwng gair cyrch ac ail linell englyn yn ôl rheolau heddiw.
Y pedwar mesur ar hugain |
Y pedwar mesur ar hugain yw'r gyfundrefn o fesurau caeth a ddaeth yn ganon awdurdodol ym marddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol Diweddar, sef cyfnod Beirdd yr Uchelwyr. |
Defnyddir y gynghanedd ym mhob un o'r pedwar mesur ar hugain. Cyfundrefnwyd y mesurau gan Ddafydd ab Edmwnd yn Eisteddfod Caerfyrddin 1451, pan geisiodd gyflwyno dau fesur astrus, gorchest beirdd a chadwynfyr i ddisodli'r englyn milwr a'r englyn penfyr.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Cynghanedd, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.