Englyn: Math o bennill ym marddoniaeth Gymraeg a Chernyweg

Math arbennig o bennill sy'n unigryw i ddiwylliant Cymru a llenyddiaeth Gymraeg yw'r englyn.

Mae ei wreiddiau'n hen gyda'r enghreifftiau ysgrifenedig cynharaf yn dyddio o tua'r 9g. Ar lafar, mae englyn yn tueddu i fod yn gyfystyr ag englyn unodl union, ond mae sawl math arall. Nid englynion unodl union mo'r enghreifftiau cynharaf, ond yn hytrach englynion milwr ac englynion penfyr, sef Canu Llywarch Hen a'r enghreifftiau yn Llawysgrif Juvencus.

Englyn: Math o bennill ym marddoniaeth Gymraeg a Chernyweg
Clawr casgliad o englynion gan Wasg y Lolfa.
Englyn: Math o bennill ym marddoniaeth Gymraeg a Chernyweg
Englyn unodl union ar garreg fedd merch 18 oed yn Llangower
Englyn: Math o bennill ym marddoniaeth Gymraeg a Chernyweg
Englyn unodl union ar garreg fedd Eglwys Sant Cynog yn Llangynog

O ail-drefnu rhai o linellau'r Gododdin a briodolir i Aneirin, gellir ffurfio englyn unodl union. Ceisiodd yr ysgolhaig John Rhŷs brofi mai o'r Lladin y daeth mesur yr englyn, felly mae'n fesur hen iawn.

Erbyn hyn, gall englyn sefyll ar ben ei hun fel cyfanwaith. Tueddai Beirdd y Tywysogion a Beirdd yr Uchelwyr ganu gosteg, cadwyn neu gyfres o englynion yn hytrach nag englyn unigol, ond ceir eithriadau, fel englyn Guto'r Glyn i'w henaint. Canodd Cynddelw Brydydd Mawr dri englyn unodl union coffa i'w fab, Dygynnelw, yn ogystal.

Roedd englynion yn rhannau pwysig o gyfarwyddyd, a thybir mai gweddillion cyfarwyddyd yw'r englynion a briodolir i Lywarch Hen a Heledd. Mae Efnisien yn canu englyn yn Ail Gainc y Mabinogi.

Mathau o englynion

Gosteg Englynion yw cyfres o ddeuddeg o Englynion Unodl Union ar yr un brifodl.

Techneg arall a ddefnyddir yw cadwyno englynion mewn cyfres drwy ddwyn gair o linell olaf yr englyn blaenorol a'i osod yn llinell gyntaf yr englyn newydd. Bydd rhai beirdd yn cloi'r gadwyn drwy gysylltu llinell olaf yr englyn olaf â llinell gyntaf yr englyn cyntaf. Enghraifft enwog o'r dechneg hon yw'r gadwyn o ddeuddeg englyn sy'n agor awdl John Lloyd-Jones, Y Gaeaf, sef awdl fuddugol Eisteddfod Genedlaethol Rhydaman, 1922.

Gweler hefyd

Englyn: Math o bennill ym marddoniaeth Gymraeg a Chernyweg 
Englyn: Math o bennill ym marddoniaeth Gymraeg a Chernyweg  Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Tags:

9gCanu Llywarch HenCymruEnglyn milwrEnglyn penfyrEnglyn unodl unionLlawysgrif JuvencusLlenyddiaeth GymraegPennill

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Northern SoulBugbrookeSeidrAffricaHalogenLGuys and DollsYws GwyneddIndonesiaY Gwin a Cherddi EraillAmaeth yng Nghymru1980Fideo ar alwYr WyddfaSussexThelemaSefydliad ConfuciusBroughton, Swydd NorthamptonBangladeshWicipediaGoogleHuluCyfraith tlodiIeithoedd BerberFfrangegTylluanSilwairAfon TeifiSaratovCuraçaoDal y Mellt (cyfres deledu)Mark HughesRhestr ffilmiau â'r elw mwyafAlien RaidersBannau BrycheiniogGhana Must GoEilianSomalilandHanes IndiaByfield, Swydd NorthamptonJohn F. KennedyLlwyd ap IwanIrunYouTubeComin WicimediaEconomi CymruYsgol Gyfun Maes-yr-YrfaBerliner FernsehturmJess DaviesCaerdyddWinslow Township, New JerseyFylfaRhisglyn y cyllMinskHTTPAmgylchedd2024Bae CaerdyddJulianLloegrCrac cocênCapreseGorgiasSaesnegAlbaniaErotica🡆 More