Thelema (Groeg: Θελημα neu thelema ewyllys) yw enw athroniaeth a chrefydd gyfriniaethol a gafodd ei sefydlu ym 1904 yn sgil cyfansoddiad y Liber AL vel Legis gan Aleister Crowley (1875-1947).
Seilwyd Thelema ar Gyfraith Thelema ac yn bennaf ar ddwy adnod o'r Liber AL vel Legis:
Diben canolog ymlynwyr Thelema yw darganfod a gweithredu eu "Gwir Ewyllys", a ddiffinir fel natur mewnol neu gwrs bywyd priodol yr unigolyn. Disgrifir y technegau a ddefnyddir i gyflawni hynny gyda'r gair henaidd Saesneg Magick.
Mae Liber AL vel Legis yn datgelu model o realiti sy'n cyfuno dau rym elfennol: estyniad diderfyn y gofod, sy'n cael ei ymgnawdoli gan dduwies Eifftaidd yr wybren, Nuit, a chanolbwynt y gofod, sy'n cael ei ymgnawdoli gan y duw Eifftaidd Hadit. Mae rhyngweithrediad y ddau ffigwr yma'n achosi i realiti ddod i fodolaeth.
Dau o dri phrif lefarydd yn Liber AL vel Legis yw Nuit (hefyd: Nu) a Hadit (hefyd: Had), gyda Nuit yn llefaru ym Mhennod I a Hadit yn llefaru ym Mhennod II. Y trydydd llefarydd, ym Mhennod III, yw'r dduw â phen yr hebog, Ra-Hoor-Khuit (Horws), "arglwydd yr epoc cyfredol".
Ymhlith ffigyrau pwysig eraill Thelema ceir:
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Thelema, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.