Mae Thoth (o'r Roeg Θώθ thṓth; sy'n dod o'r Aiffteg ḏḥw.ty) yn dduw o'r Hen Aifft.
Yn y celfyddydau, gwelir ef fel arfer yn ddyn gyda phen ibis neu fabŵn, anifeiliaid sy'n sanctaidd iddo. Seshat oedd ei wrthran fenywaidd, a Maat oedd ei wraig.
ḏḥwty Thoth | |
---|---|
Thoth, fel dyn pen ibis | |
Canolfan gwlt bwysig | Hermopolis |
Symbolau | Ibis, disg y lleuad, sgrôl papurfrwyn, ysgrifbinnau cyrs, palet ysgrifennu, stylus, babŵn, gloriannau |
Cymar | Seshat, Ma'at, Nehemtawy |
Rhieni | Neb (creodd ef ei hun); fel arall Neith neu Ra neu Horws ac Hathor |
Plant | Seshat yn ôl ambell ffynhonnell |
Lleolwyd prif deml Thoth yn ninas Khmun, a alwyd yn Hermopolis Magna yn ystod cyfnod y Groeg-Rufeinig (roeddent yn ei gysylltu â'u duw nhw, Hermes) a ϣⲙⲟⲩⲛⲉⲓⲛ Shmounein yn y Gopteg. Dinistriwyd Khmun yn rhannol ym 1826. Yn y ddinas honno, Thoth oedd arweinydd yr Ogdoad, wyth duw pwysig a gafodd eu haddoli yn Hermopolis. Roedd hefyd ganddo nifer o gysegrfeydd yn ninasoedd Abydos, Hesert, Urit, Per-Ab, Rekhui, Ta-ur, Sep, Hat, Pselket, Talmsis, Antcha-Mutet, Bah, Amen-heri-ab, a Ta-kens.
Roedd Thoth yn chwarae llawer o rolau pwysig ac amlwg ym Mytholeg yr Aifft, megis cynnal y bydysawd, a bod yn un o ddau dduw ( Maat oedd y llall) a oedd yn sefyll ar naill ochr cwch Ra. Yn hwyrach yn hanes yr Hen Aifft, daeth Thoth yn gysylltiedig â chyflafareddu rhwng duwiau, hudoliaeth, y system o ysgrifennu, datblygu gwyddoniaeth, a beirniadu'r meirw.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Thoth, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.