Math o ymddygiad rhywiol rhwng pobl neu anifeiliaid yw cyfathrach rywiol neu ymrain.
Y modd mwyaf cyffredin o gael rhyw yw i'r gwryw osod ei bidyn yn fagina'r fenyw. Esblygodd cyfathrach rywiol fel rhan o'r broses atgenhedlu, ond mae agweddau emosiynol a chymdeithasol i gyfathrach rywiol yn ogystal â rhai biolegol. Yn wir, yn aml mae pobl yn cael rhyw fel rhan o berthynas, neu er mwyn y cyffro a'r pleser corfforol yn unig, heb gael plant.
Yn aml, mae gweithredoedd megis fflyrtian, cusanu, cyffwrdd, mwytho, a dadwisgo yn rhagarweiniad i gyfathrach rywiol. Wrth i hyn ddigwydd, mae pidyn y dyn yn ehangu a'n caledu (codiad), ac mae organau cenhedlu'r ddynes yn cynhyrchu hylifau llithrigol. Pan osodir y pidyn o fewn y fagina, mae'r dyn neu'r ferch neu'r ddau yn symud eu morddwydydd, fel bod y pidyn yn symud nôl ac ymlaen tu fewn i'r fagina, sy'n creu ffrithiant a phleser gan ymgyffroi'r ddau ag arwain at orgasm ac alldafliad, fel arfer.
Cyfathrach rywiol faginaidd yw'r modd sylfaenol o atgenhedlu ymysg bodau dynol. Mae'n arwain at alldafliad, lle mae cyfangiad nifer o gyhyrau cludo semen o'r pidyn i gromgell y fagina (fel arfer, mae'r dyn yn cael orgasm wrth i hyn ddigwydd). Mae'r semen yn cynnwys miliynau o gelloedd sberm, y gametau gwrywaidd. Gall sberm nofio wefyn trwy geg y groth i'r groth, ac o'r groth i'r tiwbiau Ffalopaidd. Os yw'r ddynes yn cael orgasm wrth i'r dyn alldaflu, neu'n fuan wedyn, fe all y lleihad dros dro yn maint y fagina, a chyfyngiadau cyhyrol yn y groth, yn cynorthwyo i'r sberm cyrraedd y tiwbiau ffalopaidd (er hynny, mae'n bosib i ddynes mynd yn feichiog heb iddi gael orgasm). Os yw ŵygell ffrwythlon (gamet benywaidd) yn bresennol yn y tiwbiau ffalopaidd, mae'r sberm yn uno â hi, proses o'r enw ffrwythloniad sy'n creu embryo newydd. Pan mae embryo o'r fath yn mewnblannu ar fur y groth, mae'r ddynes yn feichiog. Mae beichiogrwydd yn parhau am dua naw mis, ac yna mae plentyn yn cael ei eni.
Os yw'r dyn a'r ddynes yn ffrwythlon, mae beichiogrwydd pob tro yn ganlyniad posib i gyfathrach rywiol. Gellir defnyddio dulliau effeithlon o atal-cenhedlu i osgoi hyn.
Yn ogystal â chyfathrach rywiol faginaidd, ceir sawl fath arall. Mewn gweinlyfu a chalyfu, defnyddir y geg a'r tafod i gyffroi'r organau cenhedlu. Mewn cyfathrach refrol, fel arfer, mae dyn yn gosod ei bidyn yn anws ei gymar. Hunan-leddfu ar y cyd yw'r ffurf fwyaf diogel o gael rhyw mae'n debyg.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Cyfathrach rywiol, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.