Aptenodytes Eudyptes Eudyptula Megadyptes Pygoscelis Spheniscus
Pengwiniaid | |
---|---|
Pengwiniaid Brenhinol (Aptenodytes patagonicus) | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Sphenisciformes Sharpe, 1891 |
Teulu: | Spheniscidae Bonaparte, 1831 |
Genera modern | |
Aderyn sydd ddim yn medru hedfan yw Pengwin. Maent yn byw yn Hemisffer y De o Antarctica i Ynysoedd y Galapagos, ar y Cyhydedd. Maent yn bwyta pysgod, cramenogion ac ystifflogod. Mae'n aelod o'r urdd Sphenisciformes.
Pengwyniaid Cymraeg? Mae'r rhan fwyaf o eiriaduron yn dyfynnu bod y gair pengwin yn deillio o'r term Cymraeg "pen gwyn", sy'n cyfieithu i "white head" yn Saesneg. Ydi’r gair Saesneg PENGUIN yn tarddu o “ben gwyn” y CARFIL MAWR. Aeth y carfil mawr i ddifodant ddechrau’r 19eg ganrif trwy hela barus a didrugaredd morwyr oherwydd ei anallu i hedfan. Gairfowl oedd ei enw Saesneg ar y pryd. Tybed ai o’r gair hwn mae ein gair carfil yn dod? Ond cwestiwn arall sydd gan Ruairidh (Roddy) Mclean - ai pen gwyn y carfil mawr esgorodd ar y gair ‘pengwin’ gan forwyr Cymreig, cyn cael ei fabwysiadu am y pengwin, aderyn tebyg ei ymarweddiad ym moroedd y de? Ac ai dyma darddiad penguin yn Saesneg?[1]
Mae’r ateb yn gymhleth a diddorol ac mae Ruairidh (Roddy) Mclean yn pwyso a mesur y dystiolaeth yn deg. (Agorwch y ddolen I ddarllen ei ysgrif yn yr Aeleg). Mae ei ddadleuon i'w gweld ym Mwletin Llên Natur rhifyn 53
Mae’r rhaghysbyseb i fersiwn ar-lein newydd yr Oxford English Dictionary yn dweud fel hyn:
Dyma ddywed Geiriadur Prifysgol Cymru am "pengwin" neu "pengwyn": "benthyciad o’r Saesneg penguin; ceisir weithiau darddu'r Saesneg penguin o’r Gymraeg pen gwyn".
Rhestr Wicidata:
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Pengwin, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.