Mae anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (Saesneg: attention deficit hyperactivity disorder neu ADHD) yn anhwylder meddyliol o fath newroddatblygol. Mae ei nodweddion yn cynnwys problemau cymryd sylw, gor-weithgaredd, neu anhawster rheoli ymddygiad nad yw'r arferol i berson o'i oedran. Mae'r symtomau yn ymddangos cyn bod y person yn ddeuddeg mlwydd oed, yn ymestyn dros gyfnod o fwy na chwe mis, ac yn achosi problemau mewn o leiaf mwy na dwy sefyllfa (fel ysgol, adref, neu weithgareddau hamdden). Mewn plant, gall problemau cymryd sylw arwain at berfformiad gwael yn yr ysgol. Er ei fod yn achosi amhariaeth, yn arbennig mewn cymdeithas fodern, mae nifer o blant sydd a'r anhwylder yn arddangos rhychwant sylw da ar gyfer tasgau sy'n eu diddori.
Enghraifft o'r canlynol | anhwylder ymddygiad, anabledd, dosbarth o glefyd, anhwylder niwroddatblygol, neurodiversity |
---|---|
Math | anhwylder datblygiadol penodol, anhwylder hypercinetig, clefyd, anhwylder niwroddatblygol |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Er mai hwn yw'r anhwylder meddyliol sydd cael ei astudio a'i ddiagnosio fwyaf ymhlith plant a phobl ifanc, nid yw'r achos yn hysbys yn y mwyafrif o achosion. Mae'n effeithio tua 5–7% o blant pan yn cael ei adnabod gan ddefnyddio meini prawf DSM-IV ac 1–2% pan yn cael ei adnabod gan ddefnyddio meini prawf ICD-10. Ers 2015 mae wedi'i amcangyfrif ei fod yn effeithio 51.1 miliwn o bobl yn fyd-eang. Mae cyfraddau yn debyg rhwng gwledydd ac yn dibynnu'n bennaf ar y dull o'i adnabod. Mae'r anhwylder yn cael ei adnabod mewn tua tair gwaith yn fwy o fechgyn nag o ferched, er bod tybiaeth nad yw'r anhwylder yn cael ei adnabod mor aml ymhlith merched oherwydd bod y symtomau yn wahanol. Mae tua 30–50% o bobl sydd a'r anhwylder yn eu plentyndod yn parhau i arddangos y symtomau fel oedolion ac mae gan rhwng 2–5% o oedolion y cyflwr. Gall fod yn anodd gwahaniaethu rhwng yr cyflwr a chyflyrau eraill, a gwahaniaethu rhwng gorfywiogrwydd sy'n dal i fod o fewn ystod ymddygiadau normadol.
Mae argymhellion ar gyfer rheoli anhwylder diffyg canolbwynio a gorfywiogrwydd yn amrywio rhwng gwledydd ac fel arfer yn gyfuniad o gwnsela, newidiadau mewn ffordd o fyw, a meddyginiaethau.
Mae llenyddiaeth feddygol wedi disgrifio symtomau tebyg i rai anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd ers y 19g. Mae'r anhwylder a'r driniaeth ohono wedi'i ystyried yn ddadleuol ers y 1970au, gyda meddygon, athrawon, lluniwyr polisi, rhieni a'r cyfryngau yn rhan o'r drafodaeth. Mae pynciau trafod yn cynnwys achosion yr anhwylder a'r defnydd o feddyginiaethau adfywiol i'w drin. Mae'r rhan fwyaf o ddarparwyr gofal iechyd yn derbyn bod yr anhwylder yn bodoli mewn plant ac oedolion, ac mae'r ddadl o fewn i'r gymuned feddygol yn canoli yn bennaf ar y dulliau o'i adnabod a'r driniaeth ohono. Cafodd y cyflwr ei enwi yn anhwylder diffyg canolbwyntio rhwng 1980 a 1987; cyn hynny, roedd yn cael ei alw yn adwaith gorginetig plentyndod (Saesneg: hyperkinetic reaction of childhood).
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.