Anabledd yw cyflwr lle mae un o gyneddfau person yn sylweddol llai effethiol na'r cyffredin i unigolyn yn eu dosbarth.
Gall gyfeirio at anabledd corfforol, er enghraifft anallu i gerdded, dallineb, byddardod ac eraill, neu anabledd meddyliol.
Symbolau anabledd | |
Math | nodwedd |
---|---|
Yn cynnwys | anabledd corfforol, anabledd meddwl, anabledd deallusol, disability affecting intellectual abilities, anabledd datblygiad |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Gall unigolion gael eu geni gydag anabledd neu gallant gael anabledd ar unrhyw gyfnod o'u bywyd o ganlyniad i ddamwain, clefyd neu ddirywiad y corff.
Ar 13 Rhagfyr 2006, cytunodd y Cenhedloedd Unedig ar Gytundeb Hawliau Pobl Anabl, cytundeb hawliau dynol cyntaf y 21ain ganrif. Credir fod tua 650 miliwn o bobl anabl trwy'r byd. Bydd disgwyl i wledydd sy'n arwyddo'r cytundeb ofalu bod eu cyfreithiau yn sicrhau fod gan bobl anabl yr un mynediad at addysg, cyflogaeth a bywyd diwylliannol, yr hawl i berchenogi ac etifeddu eiddo a thriniaeth gydradd o ran priodas a phant.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Anabledd, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.