Grwp o wefanau sy'n cyflwyno modelau erotig ydy MET-Art (neu MetArt), sy'n eiddo i MetArt Network, ac sy'n arwchilio noethni drwy ffotograffiaeth erotig.
Perchennog MetArt Network ydy HLP General Partners Incorporated o Santa Monica, California. Merched yn unig sydd ar y wefan, a gychwynwyd yn 1998 dan yr enw MostEroticTeens.com. Ei nod ydy creu erotica artistig o ansawdd uchel, drwy ddefnyddio ffotograffwyr sydd wedi ennill gwobrau mwyaf America, neu wobrau byd-eang.
Yn 2012 roedd yn un o 1500 o wefanau mwyaf poblogaidd y byd ond erbyn 2016 roedd yn 10,309fed, ac wedi mynd i lawr yn sylweddol.
Mae MetArt yn un o sawl gwefan dan ofal MetArt Network. Ei chwaer-wefan ydy SexArt sy'n targedu'r fenyw yn bennaf ac yn galw ei gynnyrch yn "Romantic Porn". Mae'r cyllid ar gyfer y ffotograffau a'r fideos yn enfawr ac yn aml wedi eu saethu mewn llefydd ecsotig a stori y tu ôl i'r shwt.
Yn Chwefror 2014 prynnodd y grwp y wefan Domai.com a goddessnudes.com - y gwefanau a'r archif. Ffurfiwyd Domai.com gan Eolake Stobblehouse yn 1997. Ym Mawrth 2013 dechreuodd MetArt reoli gwefan VivThomas.com, a phrynwyd hi ym Mai 2014.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article MET-Art, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.