Math o god bar (neu god dau ddimensiwn) penodol sy'n ddarllenadwy gan ddarllenydd cod bar QR a ffonau camera yw cod QR (gair a dalfyrrwyd o Quick Response code (Cod Ymateb Cyflym).
Mae'r cod yn dangos modiwlau du sydd wedi eu trefnu i wneud sgwâr ar gefndir gwyn. Drwy ddefnyddio cod QR, mae modd amgodio testun, URL, neu ddata eraill.
Enghraifft o'r canlynol | nod masnach |
---|---|
Math | cod bar 2D |
Dechrau/Sefydlu | Hydref 1997 |
Gwefan | https://www.qrcode.com/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Maent yn gyffredin yn Siapan, lle y crëwyd nhw gan is-gwmni Denso-Wave i Toyota ym 1994. Un o'r mathau o godau bar dau ddimensiwn mwyaf poblogaidd yw'r cod QR. Crëwyd y codau QR yn wreiddiol er mwyn tracio ceir y cwmni a chaniatáu dadgodio cyflym.
Defnyddir y dechnoleg hon yn aml yn Siapan a De Corea, ond mae'r Gorllewin wedi bod yn eithaf araf yn ei mabwysiadu.
Bellach ceir nifer o apps sy'n galluogi'r ffonau clyfar i adnabod gwrthrychau e.e. mae Aurasma yn caniatáu i ffôn y defnyddiwr "adnabod" dillad ar fodel mewn ffenest siop Dunhill yn Efrog Newydd ac mae'r model yn siarad (ar y ffôn) gan ddisgrifio'r dillad mae'n ei wisgo. Rhannwyd 2 filiwn o apps Aurasma, a hynny heb gost. Mae Blippar yn gwneud gwaith tebyg i nwyddau cyrff megis Cadbury, Jack Daniels, a Tesco.
Cyhoeddodd Pepsi'n ddiweddar fod y cwmni Pongr o Boston yn galluogi i ddefnyddiwr hepgor y codau QR gan sganio'r gwrthrych fel llun ar hysbyseb yn uniongyrchol i'w ffôn. Mae hyn gam yn y datblygiad pan y bydd "meddalwedd adnabod" yn caniatáu i chi bwyntio'ch ffôn at adeilad ac o fewn eiliadau bydd tudalen neu erthygl Wicipedia yn agor gan ddisgrifio'r adeilad. Yn y cyswllt hwn, gellir edrych ar y codau QR fel rhywbeth dros dro.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Cod QR, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.