Cyfeiria pornograffi neu porn at y portread o weithredoedd rhywiol er mwyn cyffroad a boddhad rhywiol.
Nid yw o reidrwydd yr un peth â "maswedd" ac erotica ac mae'r diffiniad o "bornograffi" yn amrywio o gyfnod i gyfnod ac o ddiwylliant i ddiwylliant o gwmpas y byd.
Ceir gwahanol fathau o bornograffi, o lyfrau erotig, cylchgronau pornograffig, cardiau post, ffotograffau, cerfluniau, darluniau animeiddiad, recordiad sain, ffilm bornograffig, fideo neu gêm fideo. Fodd bynnag, pan fo gweithred rywiol yn cael ei pherfformio gerbron cynulleidfa fyw, yn ôl y diffiniad, nid pornograffi mohono, am fod y term yn cyfeirio at y portread o'r weithred yn hytrach na'r weithred ei hun. O ganlyniad, ni ystyrir sioeau rhyw a dadwisgo yn bornograffi.
Mae model pornograffig yn diosg ei dillad neu ddillad ar gyfer lluniau pornograffig. Mae actor pornograffig, yn actio mewn ffilmiau pornograffig.
Yn aml mae pornograffi wedi cael ei sensro a rhoddir cyfyngiadau cyfreithiol arno ar sail anweddustra. Mae'r seiliau hyn ynghyd â beth yn union a ellir ei ddiffinio fel pornograffi wedi amrywio ar gyd-destunau hanesyddol, diwylliannol a chenedlaethol.
Dros y degawdau diwethaf, mae'r diwydiant pornograffi wedi tyfu gyda chynnydd VCR, DVDs, y rhyngrwyd, yn ogystal ag agweddau cymdeithasol mwy goddefgar tuag at bortreadau rhywiol. Mae pornograffi amatur wedi dod yn fwyfwy poblogaidd a chaiff ei ddosbarthu'n bennaf ar y we.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Pornograffi, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.