Mae'r We Fyd-Eang yn gasgliad o ddogfennau uwch-destun (neu hypertext; gweler HTTP), lle defnyddir y rhyngrwyd i'w cysylltu.
Gyda phorwr gwe, gall defnyddiwr weld tudalennau sy'n cynnwys testun, delweddau, sain a fideo, a theithio o dudalen i dudalen gan ddefnyddio hyperlinks.
Dyfeisiwyd y We Fyd Eang gan Tim Berners-Lee a Robert Cailliau pan roeddent yn gweithio yn CERN yng Ngenefa, Y Swistir a Ffrainc yn 1989. Ceir sawl dyddiad am enedigaeth y We fyd-eang, a'r mwyaf poblogaidd o'r rhain yw'r dyddiad pan gyhoeddodd Tim Berners-Lee femo yn gwahodd pobl y tu allan i CERN i gydweithio ar y prosiect.
Ar 30 Ebrill 1993, rhoddodd CERN ganiatad i'r we gael ei defnyddio'n agored ac am ddim gan weddill y byd.
Y tro cyntaf y soniwyd yn Gymraeg am y we oedd ar 23 Gorffennaf 1969 gan y gwyddonydd Owain Owain: 'Yn syml, mae'r gyfundefn hwn o gyfrifyddion (neu gyfrifiaduron) yn ei gwneud hi'n bosib i gofnodi y cyfan o wybodaeth yr hil ddynol drwy'r oesau mewn un lle, mewn modd sy'n galluogi unrhyw unigolyn - o'i gartref ei hun er enghraifft - archebu a derbyn unrhyw ran o'r wybodaeth honno.... Rydych am weld cerflun mwyaf o geffyl sydd mewn bod? Yna, o'ch cadair freichiau, a chyn i'r bys olaf adael y botwm olaf, fe fydd llun y ceffyl ar y llen deledu yn eich ystafell.' Neu gynllun pensaernïol Eglwys S. Pedr yn Rhufain? Pwyswch fotymau eraill a dyna'r cynllun pensaernïol yn dilyn y ceffyl mewn llai na chwinciad!'
Y wefan Gymraeg gyntaf oedd Curiad a lansiwyd gan Dafydd Tomos ar y rhestr ebyst WELSH-L ar 13 Ebrill 1995. Roedd y wefan yn cynnwys gwybodaeth am gigs, bandiau, adolygiadau a siartiau Cymraeg. Roedd yn gwbl ddwyieithog i ddechrau cyn ail-lansio yn uniaith Gymraeg yn 2005. Mae rhan helaeth o'r deunydd ar gael hyd heddiw wedi'i archifo.
Rhoddwyd y gyfrol Gymraeg gyntaf ar y we ar 1 Rhagfyr 1996, sef cyfrol o farddoniaeth gan Robin Llwyd ab Owain: Rebel ar y we.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Y we fyd-eang, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.