Y broses o wneud lluniau trwy ddefnyddio golau yw ffotograffiaeth (o'r Groeg: φωτός, photos: golau a graphos γραφή sef llun neu olau), gan ddefnyddio camera.
Mae'n grefft i rai, difyrwaith i eraill, a hefyd caiff ei ddefnyddio ar gyfer trosglwyddo gwybodaeth, e.e. mewn newyddiaduriaeth i gofnodi digwyddiadau. Mae pobol yn cadw lluniau o bapur neu ar ffilm er enghraifft. Ceir ffotograffiaeth ffasiwn, ffotograffiaeth dogfenol, ffotograffiaeth crefft a.y.b. Erbyn heddiw mae'r rhan fwyaf o gamerau a werthir yn gamerau digidol.
Yn 1834, yn Campinas, Brasil, sgwennodd y paentiwr a'r dyfeisiwr Ffrengig Hercules Florence y gair "photographie" yn ei ddyddiadur; dyma oedd y tro cyntaf i'r gair gael ei ysgrifennu mewn unrhyw iaith.
Dwy flynedd wedi dyfeisio ffotograffiaeth tynnodd y Parch Calvert Richard Jones y ffotograff cynharaf a gofnodwyd yng Nghymru. Tynnwyd ef ar y 9fed o Fawrth 1841, sef llun o Gastell Margam, tŷ ei gyfaill cefnog Christopher Rice Mansel Talbot. Defnyddiodd ddull o'r enw "daguerroteip". Roedd Calvert yn un o gylch o ffotograffwyr cynnar yn Abertawe a oedd yn troi o amgylch y diwydiannwr John Dillwyn Llewelyn o Benlle’r-gaer.
Dyfeisiodd William Henry Fox Talbot broses ffotograffig arall a oedd yn fwy llwyddiannus. Gan ddefnyddio negatifs papur, roedd proses Talbot yn caniatáu i nifer o gopiau gael eu gwneud. Roedd Talbot yn gefnder i Emma, gwraig John Dillwyn Llewelyn. Daeth John Dillwyn Llewelyn a’i deulu yn arloeswyr cynnar ffotograffiaeth yn ystod yr 1840au a 1850au.
Mae gan y Llyfrgell Genedlaethol dros 800,000 o ffotograffau sy’n gysylltiedig â Chymru.
Yn 1863 dechreuodd John Thomas werthu cartes des visite o enwogion Cymreig y dydd. Roedd hefyd yn tynnu ffotograffau o bobl gyffredin, yn aml wrth eu gwaith. Cofir amdano fwyaf heddiw am ei olygfeydd topograffig. Mae dros 3,000 o ffotograffau John Thomas yn y Llyfrgell Genedlaethol.
Ymhlith ffotograffwyr mawr y byd mae:
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Ffotograffiaeth, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.