Stripio (neu dinoethi) ydy'r weithred o dynnu neu ddiosg dillad o'r corff mewn modd erotig (striptîs).
Mae'r person sy'n gwneud hyn er diddanu yn cael ei galw'n "stripar" ac weithiau mae dawnsiwr polyn yn tynnu ei dillad i ffwrdd, ac felly'n gneud striptîs. Ar adegau arbennig mae pobl yn talu person (neu "strip-o-gram") i wneud hyn am hwyl, wedi ei gwisgo fel plismon, nyrs neu wisg ffantasi arall.
Enghraifft o'r canlynol | math o ddawns, occupation group according to ISCO-08 |
---|---|
Math | erotic dancing |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Gelwir adeilad lle perfformir stripio yn glwb stripio (strip club) a cheir ar adegau stripio erotig mewn clybiau nos. Efallai mai'r clybiau stripio enwocaf, fodd bynnag yw'r Folies Bergère a sefydlwyd yn 1869 a'r Moulin Rouge a sefydlwyd gan Charles Zidler a Joseph Oller a hynny ger Montmartre ym Mharis. Yn ogystal i stripio ei hun, mae rhai lleoliadau stripio yn cynnig cabaret, canu a pherfformiadau amrywiol gan sioeferched.
Am flynyddoedd edrychwyd ar stripio erotig fel tabw ac roedd deddfau pwrpasol i'w atal mewn nifer o wledydd.
Mae'n bosibl mai yn Babilon y ceir y cyfeiriad cyntaf at stripio er pleser. Yng Ngwlad Groeg, sefydlodd Solon yn y 6g Cyn Crist sawl dosbarth gwahanol o buteiniaid gan gynnwys yr auletrides, sef dawnswyr benywaidd erotig. Roedd gan y Rhufeiniaid hefyd ferched a ddawnsiai'n erotig, gan ddiosg eu dillad, ac a oedd yn rhan o'r adloniaint a elwir yn ludi yn y Floralia pob mis Ebrill. Arferai'r Ymerodres Theodora yn y 6g stripio mewn dawns a oedd yn darlunio stori Leda a'r Alarch. Ymddengys, felly fod stripio'n gwbwl dderbyniol gan gymdeithas ledled y byd hyd at ddyfodiad yr Eglwys Gristnogol yn y 7g ac ni cheir lawer o gyfeiriadaeth at y weithred hon yn y Canol Oesoedd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Stripio, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.