Brawdoliaeth gyfrin a ddechreuwyd o bosib rhwng diwedd 16g a dechrau'r 17g yw brawdolaeth y Seiri Rhyddion (neu Fasoniaeth)
Mae tarddiad y mudiad yn niwlog a cheir fersiynau gwahanol o Fasoniaeth ledled y byd. Amcangyfrifir fod gan y mudiad tua chwe miliwn o aelodau, gyda thua 150,000 ohonynt yn yr Alban ac Iwerddon, a thros chwarter miliwn o dan reolaeth Cyfrinfa Unedig Lloegr ac ychydig o dan dau filiwn yn yr Unol Daleithiau.
Rhennir gweinyddiaeth y frawdoliaeth yn Brif Gyfrinfeydd, gyda phob un ohonynt yn gyfrifol am eu hardal eu hunain, sy'n cynnwys is-Gyfrinfeydd. Mae'r amryw Prif Gyfrinfeydd yn cydnabod ei gilydd ai peidio yn seiliedig ar dirnodau (mae Cyfrinfeydd Mawrion sy'n rhannu tirnodau cyffredin a'i gilydd yn ystyried ei gilydd yn Gyfrinfeydd Mawrion Cyson, a'r rhai nad ydynt yn gyson yn "anghyson" neu'n "ddirgel"). Mae canghennau hefyd yn bodoli sy'n rhan o brif ffrwd y Seiri Rhyddion, ond maent yn annibynnol o ran llywodraethu.
Defnyddia ysgrifenwyr rhyddiaeth y trosiad o offer a theclynnau seiri maen, gydag adeiladu Teml y Brenin Solomon yn gefnlen alegorïaidd iddo ers blynyddoedd. Y bwriad yw i gyfleu'r hyn y mae Seiri Rhyddion a beirniaid o'r system wedi disgrifio fel "system foesol dan orchudd alegori ac wedi'i darlunio gan symbolau". Mae'r opera Die Zauberflöte (Y Ffliwt Hud) gan Mozart yn orlawn o'r math yma o symbolau.
Mae'r Seiri Rhyddion yn gwneud gwaith elusennol yn eu cymunedau ac yn hybu moesau a chyfeillgarwch gan aelodau'r frawdoliaeth. Mae natur gyfrinachol y Seiri Rhyddion wedi ennyn cryn wrthwynebiad trwy gydol eu hanes, yn ogystal â nifer o ddamcaniaethau cydgynllwyniol.
Ers 1738 mae'r Eglwys Gatholig yn gwahardd ei haelodau rhag ymaelodi â'r Seiri Rhyddion. Cyhoeddwyd nifer o fylau pabyddol sy'n ailadrodd cred yr Eglwys fod Masonieth yn groes i ddysgeidiaeth Gristnogol. Ni cheir Catholigion sy'n dod yn Seiri Rhyddion dderbyn y cymun.
Ysgrifennodd William Morgan o Efrog Newydd (1774–1826?) lyfr yn erbyn y Seiri Rhyddion, sef The Mysteries of Free Masonry. Diflannodd o wyneb y Ddaear a chred rhai iddo gael ei herwgipio a'i ladd gan y frawdoliaeth.
Mae Mwslimiaid yn edrych ar Saer Rhydd fel cefnogwr i Israel. Dywed Erthygl 28 o Gyfamodau Hamas fod athroniaeth y Seiri Rhyddion yn "gweithio dros Seioniaeth ac oddi tanynt".
Oherwydd ymglymiad honedig y Seiri Rhyddion i Seioniaeth, danfonwyd llawer o Seiri Rhyddion i wersylloedd crynhoi gan y Natsïaid, lle bu rhaid iddynt wisgo bathodyn coch oedd yn dynodi eu statws fel "carcharorion gwleidyddol".
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Seiri Rhyddion, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.