Cymdeithasegydd, addysgwr ac Athro Prifysgol o Gatalwnia yw Anna Gabriel i Sabaté (Sallent, Catalwnia, 1975) ac aelod o Lywodraeth Catalwnia o 2015 hyd at 2017.
Mae'n cynrychioli plaid gwrth-gyfalafol a thros-annibyniaeth - y CUP – Plaid Wleidyddol Gatalanaidd (y Candidatura d'Unitat Popular).
Anna Gabriel i Sabaté | |
---|---|
Ganwyd | Anna Gabriel i Sabaté 13 Medi 1975 Sallent de Llobregat |
Man preswyl | Genefa |
Dinasyddiaeth | Catalwnia |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, constitutional lawyer, social educator |
Swydd | city councillor of Sallent, Aelod o Senedd Catalwnia |
Cyflogwr | |
Plaid Wleidyddol | CUP – Plaid Wleidyddol Gatalanaidd |
Mam | Maribel Sabaté |
llofnod | |
Fe'i ganed yn 1975 i deulu o fwynwyr ac hyrwyddwyr undebau llafur, yn nhref gweithiol Sallent de Llobregat, 70 km i'r gogledd o Farcelona. Astudiodd y gyfraith a chychwynodd weithio fel darlithydd yn yr adran hanes y gyfraith, ym Mhrifysgol Annibynnol Barcelona. Cychwynodd ymhel â gwleidyddiaeth pan oedd yn 16 oed pan ymunodd gyda sawl llwyfan gwrth-ffasgiaidd.
Gweithiodd am ychydig fel llefarydd yr ymgyrch dros annibyniaeth "Independència per canviar-ho tot" ("Annibyniaeth i Newid Popeth") a bu'n gynghorydd Cyngor Dinas Sallent rhwng 2003 a 2011. Cynrychiolodd y CUP yn etholiad Cyffredinol Sbaen yn 2004. Yn nhymor seneddol 2012-2015 gweithiodd fel cydgysylltydd grwp seneddol y CUP.
Yn Etholiad Cyffredinol Catalwnia, 2015 fe'i hetholwyd yn ddirprwy dinas Barcelona ac am ddwy flynedd hi oedd llefarydd y blaid, yn genedlaethol.
Wedi Refferendwm ynghylch annibyniaeth Catalwnia 2017 pan anafwyd dros fil o Gatalwniaid gan heddlu Sbaen, galwyd Anna Gabriel i Sabaté i Uwch-lys Sbaen i roi tystiolaeth ynghylch ei gwaith a'i chyfraniad i'r digwyddiadau hyn.. Ar 20 Chwefror dywedodd mewn cyfweliad gyda Le Temps nad oedd ganddi unrhyw fwriad i fynd i'r llys ac y byddai'n mynd i'r Swistir.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Anna Gabriel i Sabaté, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.