Refferendwm ar ddyfodol Catalwnia a gynhaliwyd gan Generalitat de Catalunya (Arlywydd Catalwnia) oedd Refferendwm Catalwnia 2014, a ddiffiniwyd gan y Llywodraeth fel 'Dinasyddion yn cymryd rhan mewn proses sy'n ymwneud â dyfodol y wlad' Fe'i galwyd hefyd yn Refferendwm Annibyniaeth Catalwnia.
a defnyddir y term 'y broses o gymryd rhan' gan y Llywodraeth wedi i Lys Cyfansoddiadol Sbaen ganslo "ymgynghoriad poblogaidd di-refferendwm" a oedd i'w gynnal ar yr un dyddiad (9 Tachwedd). Pleidleisiodd dros 80% o blaid bod yn Wladwriaeth annibynnol, gyda dros dwy filiwn o bobl wedi bwrw'u pleidlais.
Canlyniadau. Cryfder y lliw = cryfder y bleidlais. Gwyrdd = Ydw / ydw. | ||
Dyddiad | 2014 | |
---|---|---|
Lleoliad | Catalwnia | |
Gwefan | ||
www.participa2014.cat |
Gofynnwyd dau gwestiwn: "Ydych chi'n dymuno i Gatalwnia fod yn Wladwriaeth?" a hefyd "Os bydd yr ateb yn gadarnhaol yna, a ydych chi'n dymuno i'r Wladriaeth fod yn annibynnol?"
Ar 19 Medi 2014, rhoddodd Llywodraeth Catalwnia (Esquerra Republicana de Catalunya) sêl eu bendith ar alwad am refferendwm ar annibyniaeth. Roedd pleidlais i'w chynnal ar 9 Tachwedd. Ar yr un diwrnod cyhoeddodd Llywodraeth Sbaen y byddent yn atal hyn drwy apelio yn Llys Cyfansoddiadol Sbaen. Ar 29 Medi clywyd yr achos a gohiriwyd y bleidlais a oedd i'w chynnal. Yn dilyn hyn cyhoeddodd Llywodraeth Catalwnia eu bod wedi 'gohirio dros dro' y bleidlais.
Ar 14 Hydref, cynigiodd Artur Mas i Gavarró, Arlywydd y wlad 'broses i'w dinasyddion gymryd rhan yn nyfodol y wlad', yn hytrach na refferendwm. Mynegodd Llywodraeth Catalwnia eu bwriad i apelio yn erbyn Llywodraeth Sbaen yn y Llys Cyfansoddiadol, a phenderfynodd y Llys (ar 4 Tachwedd) i ohirio'r bleidlais. Cyhoeddodd Llywodraeth Catalwnia y bydden nhw'n bwrw ymlaen gyda'r bleidlais, er gwaethaf penderfyniad Llys Cyfansoddiadol Sbaen.
Bydd hawl gan dinasyddion dros 16 oed i bleidleisio.
Gorchmynodd Eduardo Torres-Dulce ddiwrnod cyn y bleidlais i Heddlu Sifil Catalwnia (sef y Mossos d’Esquadra) i ddarganfod pwy oedd yn gweithio yn y canolfannau pleidleisio, a phwy oedd yn eu hagor. Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Catalwnia na fyddai'r Mossos yn gwneud hynny. Ymatebodd Mas drwy ddweud, "Os ydy Llywodraeth Sbaen isio gwybod pwy sy'n gyfrifol am agor yr ysgolion, gallan nhw edrych arna i. Fi a fy Llywodraeth."
Rhwng 2009 a 2011 cynhaliwyd sawl refferendwm answyddogol ar annibyniaeth y wlad. Cynhaliwyd y cyntaf yn Arenys de Munt ar 13 Medi 2009, ac yna Sant Jaume de Frontanyà ar 12 Rhagfyr ac mewn 166 rhanbarth y diwrnod wedyn a Barcelona gyfan yn Ebrill 2011.
Ar 23 Ionawr 2013 cymeradwyodd Llywodraeth Catalwnia (gydag 85 pleidlais o blaid a 41 yn erbyn a dwy yn atal) "Ddatganiad o Sofraniaeth a'r Hawl i Bobl Catalwnia Benderfynu". Dyma ran ohono:
Yn unol ag ewyllys mwyafrif pobol Catalwnia, sydd wedi'i fynegi mewn modd democrataidd, mae nawr yn fwriad gan Lywodraeth Catalwnia i gychwyn y broses o hyrwyddo hawl dinasyddion Catalwnia i benderfynu gyda'i gilydd eu dyfodol gwleidyddol.
Ar 8 Mai 2013 gohiriodd Llys Cyfansoddiadol, Sbaen y datganiad hwn, 'dros dro'.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Refferendwm ynghylch annibyniaeth Catalwnia 2014, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.