Ail ddinas y Swistir o ran poblogaeth yw Genefa neu Geneva (Ffrangeg Genève, Almaeneg Genf, Eidaleg Ginevra, Rhaeto-Romáwns Genevra).
Fe'i lleolir ar Llyn Léman (Llyn Genefa) yng ngorllewin pell y wlad. Prifddinas canton o'r un enw a dinas fwyaf y Swistir Ffrangeg ei hiaith yw hi hefyd. Mae ganddi boblogaeth o 185,028 (2005). Mae ardal ddinesig Genefa yn lledu dros y ffin â Ffrainc gan gynnwys rhannau o départements Ain a Haute-Savoie yn Ffrainc, yn ogystal â rhannau o canton Vaud. Mae'r ardal ddinesig mewn cyfanswm yn gartref i dua 700,000 o bobl.
Math | prifdinas canton y Swistir, tref goleg, dinas yn y Swistir, dinas fawr, bwrdeistref y Swistir |
---|---|
Poblogaeth | 203,840 |
Pennaeth llywodraeth | Alfonso Gomez Cruz |
Cylchfa amser | UTC+01:00 |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Ffrangeg |
Daearyddiaeth | |
Sir | Genefa |
Gwlad | Y Swistir |
Arwynebedd | 15.92 km² |
Uwch y môr | 373.6 metr |
Gerllaw | Afon Rhône, Arve, Llyn Léman |
Yn ffinio gyda | Carouge, Chêne-Bougeries, Cologny, Lancy, Pregny-Chambésy, Vernier, Grand-Saconnex, Veyrier |
Cyfesurynnau | 46.2°N 6.15°E |
Cod post | 1201, 1202, 1203, 1204, 1205, 1206, 1207, 1208, 1209, 1211, 1200 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Genève |
Pennaeth y Llywodraeth | Alfonso Gomez Cruz |
Statws treftadaeth | Swiss townscape worthy of protection |
Manylion | |
Ar 10 Ionawr, 1920, cyfarfu Cynghrair y Cenhedloedd am y tro cyntaf yng Ngenefa, ei bencadlys ar ôl hynny hyd ddiwedd ei oes yn 1946.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Genefa, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.