Pan fo gweithiau sydd a'u hawliau deallusol wedi dod i ben, yn anaddas, neu wedi eu hildio (neu eu 'fforffedu'), gellir dweud eu bod yn y 'parth cyhoeddus.
Enghraifft o'r canlynol | statws hawlfraint, cysyniad cyfreithiol |
---|---|
Math | pethau da, cyhoeddus |
Y gwrthwyneb | dan hawlfraint |
Yn cynnwys | yn anaddas ar gyfer amddiffyn yr hawlfraint |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Er enghraifft, oherwydd eu hoedran, mae hawlfraint gweithiau Dafydd ap Gwilym a Shakespeare wedi dod i ben ers blynyddoedd, ac felly yn y parth cyhoeddus. Mae rhai gweithiau eraill nad ydynt yn addas i fod o fewn hawlfraint, er enghraifft fformiwlâu Isaac Newton, rysáit ac unrhyw feddalwedd a grewyd cyn 1974.
Ceir hefyd gorff o weithiau mae eu hawduron (neu berchnogion) wedi ildio eu hawlfraint. Ni ddefnyddir y term 'parth cyhoeddus' pan fo'r gwaith yn cadw 'hawliau dros ben' (neu residual rights) h.y. fe ganiateir defnyddio'r gwaith, ond cedwir yr hawliau gan ei berchennog, gan ei ryddhau "dan drwydded" neu "gyda chaniatâd"; mae Copyleft yn enghraifft o hyn.
Mae deddfau hawlfraint yn gwahaniaethu o wlad i wlad: gall gwaith fod yn y parth cyhoeddus mewn un wlad ond dan amodau hawliau mewn gwlad arall.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Parth cyhoeddus, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.