Cyfrol ysgrifenedig gynhwysfawr, sy'n gasgliad o wybodaeth ar bwnc neu amrywiaeth o bynciau yw gwyddoniadur.
Ysgrifennwyd cyfrolau gwyddoniadurol gan rai o awduron Groeg yr Henfyd, megis Aristoteles, a Plinius. Un o brif ganolfannau i weithgarwch o'r fath oedd Llyfrgell enwog Alecsandria yn Yr Aifft.
Yn ystod yr Oesoedd Canol, datblygwyd y dull gwyddonol a'r arfer o nodi ffynonellau gan ysgolheigion Mwslemaidd, a chynhyrchwyd sawl cyfrol gynhwysfawr. Ymysg y rhai mwyaf nodedig mae gwaith Abu Bakr al-Razi ar wyddoniaeth, 270 llyfr Al-Kindi, gwyddoniadur meddygol Ibn Sina, a chyfrolau hanes y Ash'ari, al-Tabri, al-Masudi, ac eraill.
Ysgrifennodd Cassiodorus (c.490 - c.580) wyddoniadur ar ddysg a'r Saith Celfyddyd, sef yr Institutiones divinarum et saecularium litterarum. Daeth y llyfr yn waith safonol yn yr Oesoedd Canol a astudid ledled Ewrop.
Datblygodd y gwyddoniadur modern o'r geiriadur yn ystod y 18g. Ymysg cyfrolau arloesol y ganrif honno mae'r Cyclopaedia, or Universal Dictionary of Arts and Sciences, Encyclopædia Britannica, a'r Brockhaus Konversations-Lexikon.
Cyhoeddwyd y gwyddoniadur aml-gyfrol Cymraeg cyntaf mewn deg cyfrol rhwng 1854 a 1879 dan yr enw Y Gwyddoniadur Cymreig, dan olygyddiaeth gyffredinol John Parry (1812-1874).
Ffurfiwyd y gair gwyddoniadur, gydag enghreifftiau o 1852 ymlaen, o'r terfyniad -iadur a'r gair gwyddon (sef cangen neilltuol o wybodaeth), o'r gair gwybod. Daw'r gair am wyddoniadur mewn llawer o ieithoedd (Saesneg encyclopaedia a (Ffrangeg encyclopédie er enghraifft) o'r gair Lladin Canol encyclopaedia, o'r gair Roeg ενγκύκλια παιδεία "addysg gyffredinol". Mae gan y Gymraeg gair cynhenid am wyddoniadur, ac yn anarferol yn hynny o beth.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Gwyddoniadur, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.