Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig, a gyhoeddwyd yn 2008, yw'r gwaith gwyddoniadurol mwyaf uchelgeisiol i'w gyhoeddi yn yr iaith Gymraeg ers y 19g.
Mae'n ymwneud â Chymru'n unig, yn wahanol i'r Gwyddoniadur Cymreig a gyhoeddwyd mewn deg cyfrol rhwng 1854 a 1879 gan Thomas Gee oedd yn wyddoniadur cyffredinol; yn hytrach mae'n debyg i Cymru: yn Hanesyddol, Parthedegol a Bywgraffyddol a olygwyd gan Owen Jones ac a gyhoeddwyd rhwng 1871 a 1875. Cyhoeddwyd y gyfrol yn Saesneg yr un pryd wrth yr enw Encyclopedia of Wales.
Enghraifft o'r canlynol | gwaith ysgrifenedig, gwyddoniadur cenedlaethol |
---|---|
Dyddiad cyhoeddi | 2008 |
Mae trwch yr erthyglau am lefydd yng Nghymru ac am ei phobl. Cyfyngir yr erthyglau bywgraffyddol i unigolion sydd wedi marw. Y golygyddion yw John Davies (golygydd ymgynghorol am ddau fersiwn), Menna Baines (golygydd y fersiwn Cymraeg), Nigel Jenkins (golygydd y fersiwn Saesneg) a Pheredur Lynch.
Dechreuwyd ar y prosiect yn Ionawr 1999 a chyhoeddwyd y llyfr ar 31 Ionawr 2008, er mai 14 Tachwedd 2007 oedd y dyddiad lansio gwreiddiol.
Arianwyd y prosiect, a gostiodd £300,000, gan yr Academi Gymreig, Gwasg Prifysgol Cymru a hefyd cymorthdal gan Gyngor Celfyddydau Cymru drwy arian Loteri.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.