Bardd o Gymro oedd John Ceiriog Hughes (25 Medi 1832 – 23 Ebrill 1887), a aned ar fferm Penybryn, Llanarmon Dyffryn Ceiriog.
Dan ei enw barddol adnabyddus Ceiriog yr oedd efallai y mwyaf poblogaidd a dylanwadol o feirdd Cymru yn ail hanner y 19g. Roedd yn gyfaill i R. J. Derfel, Creuddynfab ac Idris Fychan.
John Ceiriog Hughes | |
---|---|
Ffugenw | Ceiriog |
Ganwyd | 25 Medi 1832 Llanarmon Dyffryn Ceiriog |
Bu farw | 23 Ebrill 1887 Eglwys Sant Gwynog, Caersŵs |
Man preswyl | Llanidloes, Llanarmon Dyffryn Ceiriog |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd, gorsaf-feistr, clerc |
Priod | Annie Hughes |
Plant | Delia Ceiriog Hughes |
Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
Roedd mam Ceiriog, Phoebe, yn gweithio fel bydwraig ac yn meiddiannu dealltwriaeth neilltuol o dda o rinweddau llysiau ar gyfer gwella pobl. Yn un o wyth o blant, roedd Ceiriog yn ffefryn yn llygaid ei fam a cafodd ei sbwylio ganddi. Dechreuodd Ceiriog farddoni tra'n ddisgybl yn Ysgol Nant y Glôg ar ôl derbyn llyfr ar ramadeg Cymraeg gan ei dad, Richard, a oedd yn cynnwys adran ar sut i gynghaneddu. Pan yn 18 oed, ym 1849, gadawodd Ceiriog Llanarmon, a mynd i fyw i Fanceinion. Bu'n gweithio mewn siop Groser yn Oxford Street, Manceinion am gyfnod, cyn iddo agor siop groser ei hun ar Charles Street, Manceinion ym 1854.
Yn y cyfnod 1845-1862 bu William Williams (Creuddynfab) yn gweithio fel meistr stesion ar y rheilffordd newydd yn ardal y Pennines. Yno daeth yn gyfaill i Geiriog. Cafodd waith iddo ar y rheilffordd a daeth yn ddylanwad mawr ar y bardd ieuanc, megis perthynas athro a disgybl. Wedi ymweliad gan Creuddynfab, a oedd erbyn hynny wedi ei benodi'n ysgrifennydd cyntaf Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol, penderfynnodd Ceiriog werthu'r siop a chanolbwyntio ar farddoni. Arweiniodd y newid hwn i Ceiriog ddechrau yfed alcohol yn drwm. Dychwelodd Ceiriog i Gymru ym 1865 ar ôl derbyn swydd fel gorsaf-feistr yng ngorsaf drennau Llanidloes. Wedi dychwelyd i Gymru, parhaodd y bardd i yfed yn drwm a bu farw yn ddyn tlawd, 54 blwydd oed, ym 1887.
Un o nodweddion barddoniaeth Ceiriog yw'r ffaith fod ei waith yn ymgeisio i ddyrchafu'r Cymry ac i greu diwylliant Cymreig newydd yn dilyn cyhoeddiad yr adroddiad sarhaus y 'Llyfrau Gleision' ar addysg yng Nghymru. Fe ysgrifennai Ceiriog gerddi syml a oedd yn gweddu'n dda i gerddoriaeth.
Bardd telynegol oedd Ceiriog. Canai ar yr hen alawon Cymreig. Daeth i sylw cenedlaethol pan enillodd yn Eisteddfod Fawr Llangollen yn 1858 am rieingerdd, Myfanwy Fychan o Gastell Dinas Brân. Mae rhai o'i gerddi yn aros yn boblogaidd heddiw, er enghraifft Dafydd y Garreg Wen, Nant y Mynydd, a'r dilyniant o gerddi Alun Mabon gyda'u llinellau enwog am barhad cenedl y Cymry dros y canrifoedd:
Aros mae'r mynyddau mawr,
Rhuo trostynt mae y gwynt.
Er bod ei ganeuon yn bruddglwyfus a theimladol yn ôl safonau diweddar, medrai ysgrifennu rhyddiaith ddychanol hefyd, gan ddychanu sefydliadau fel yr Eisteddfod a thuedd amlwg yr oes at barchusrwydd a lledneisrwydd, yn arbennig yn y cyfrolau Gohebiaethau Syr Meurig Crynswth.
Fe ddywedodd O.M. Edwards fod Ceiriog wedi 'gwneud mwy dros farddoniaeth Cymru na holl gywyddwyr a chynganeddwyr y canrifoedd'. Mae ei farddoniaeth yn parhau i fod ymysg y cerddi mwyaf poblogaidd yng Nghymru hyd heddiw.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article John Ceiriog Hughes, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.