Mae telyneg yn gerdd fer, gryno a didwyll, bersonol ei naws, sydd fel rheol yn canolbwyntio ar un testun uniongyrchol ac ymateb y bardd iddo.
Cysylltir y delyneg â chanu serch a chanu natur, yn enwedig o safbwynt personol a/neu Rhamantaidd.
Ceir traddodiad hir o ganu telynegol yng Ngroeg yr Henfyd a Rhufain, ac mae telynegion Lladin yn elfen amlwg ym marddoniaeth yr Oesoedd Canol.
Yng Nghymru mae sawl un o'r Hen Benillion yn delynegion perffaith. Benthycwyd ac addaswyd traddodiad y penillion hyn gan emynwyr y 18g, yn enwedig Williams Pantycelyn. Mae meistri mawr ar y delyneg yn y ganrif olynol yn cynnwys John Blackwell (Alun), Ieuan Glan Geirionnydd a Ceiriog. Yn yr 20g gellid crybwyll Eifion Wyn a W. J. Gruffydd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Telyneg, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.