Barddoniaeth ydy'r gelfyddyd o fynegi'n brydferth y meddyliau a gynhyrchir gan y teimlad a'r dychymyg, fel arfer ond nid bob amser gyda llinellau o hyd arbennig, rythm arbennig a'r llinellau yn odli.
Mae rhai wedi disgrifio barddoniaeth fel ffordd arbennig o drin geiriau. Ymhlith y technegau y gall bardd eu defnyddio mae cymariaethau, trosiadau, odl, cyflythreniad ac ailadrodd.
Enghraifft o'r canlynol | ffurf llenyddiaeth, disgyblaeth academaidd |
---|---|
Math | gwaith llenyddol |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ymhlith y mathau o fesurau barddoniaeth y gellir eu cael mae englyn, haiku, telyneg, soned, cywydd, a baled.
Daw'r enghreifftiau cynharaf o farddoniaeth Gymraeg o'r 6g, sef Canu Aneurin a Chanu Taliesin. Tua'r 9g cafwyd Canu Llywarch Hen a Chanu Heledd. Gelwir y beirdd o'r cyfnod cynnar yn Gynfeirdd a'r beirdd yng nghyfnod y tywysogion yn Ogynfeirdd. Gelwir beirdd yr oes wedi cwymp Llywelyn 1282 yn Feirdd yr Uchelwyr. Ysgrifennau Beirdd yr Uchelwyr megis Dafydd ap Gwilym a Iolo Goch llawer o gywyddau. Bu trai ar ysgrifennu barddoniaeth ar ôl uno Cymru a Lloegr. Rhaid cofio serch hynny bod emynau yr emynwyr yn farddoniaeth aruchel, yn enwedig gwaith William Williams Pantycelyn ac Ann Griffiths. Ar ddiwedd y 19g a dechrau'r 20g caed dadeni gyda beirdd fel T. Gwynn Jones. Nes ymlaen yn y ganrif roedd T. H. Parry-Williams a Gwenallt yn ysgrifennu, a thua chanol y ganrif bardd mawr arall oedd Waldo Williams. Mae llu o feirdd wedi ysgrifennu barddoniaeth o safon uchel o hynny hyd at ddechrau'r unfed ganrif ar hugain, nifer ohonynt yn ysgrifennu mewn cynghanedd.
Yn y Gymraeg ceir Cynghanedd, rhywbeth sy'n unigryw i'r Gymraeg.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Barddoniaeth, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.