Dafydd Ap Gwilym: Bardd

Un o feirdd enwocaf Cymru a ystyrir yn feistr mawr y cywydd a'r canu serch oedd Dafydd ap Gwilym (tua 1320 - tua 1380).

Fe'i cydnabyddir fel un o feirdd pwysicaf Ewrop gyfan yn ei gyfnod. Roedd yn canu yng nghyfnod Beirdd yr Uchelwyr; credir iddo gael ei eni rhywbryd rhwng 1320 - a 1330 ym mhlwyf Llanbadarn Fawr ger Aberystwyth. Meistrolodd y mesur caeth newydd a ddaeth i fri yn y cyfnod hwn sef y cywydd. Credir iddo farw tua 1380 ac iddo gael ei gladdu yn Abaty Ystrad Fflur.

Dafydd ap Gwilym
Dafydd Ap Gwilym: Hanes, Ei gerddi, Marwnadau i Ddafydd gan y beirdd
Ganwydc. 1320 Edit this on Wikidata
Ceredigion, Brogynin Fawr Edit this on Wikidata
Bu farwc. 1380 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Blodeuodd1340 Edit this on Wikidata
MamArdidvil Edit this on Wikidata

Hanes

Roedd Dafydd o dras uchelwrol. Ei dad oedd Gwilym Gam ap Gwilym ab Einion: ni wyddom ddim amdano, heblaw am y ffaith i'w ewythr, Llywelyn ap Gwilym ab Einion, fod yn gwnstabl yng Nghastell Newydd Emlyn. Bu ei ewythr Eynon, yn swyddog pwysig a thirfeddianwr yng Nghemais yng ngogledd Sir Benfro a chododd fyddin i'r goron Seisnig.

Ei gerddi

Prif destunau ei gerddi oedd natur a serch, a fuasai'n bynciau dieithr i farddoniaeth Gymraeg cyn hynny. Un o'i brif themâu yw'r hyn sy'n rhwystro ei garwriaeth; afon, ffenestr, person arall neu hyd yn oed frân yn crawcian uwch ei ben. Y rhwystr mwyaf oll, yn aml, yw anwadalrwydd ei gariad.

Marwnadau i Ddafydd gan y beirdd

Mae sawl marwnad i Ddafydd ap Gwilym gan ei gyfoeswyr ar glawr. Canodd Iolo Goch farwnad i Ddafydd.

Llyfryddiaeth

Testunau

  • Thomas Parry (gol.), Gwaith Dafydd ap Gwilym (Caerdydd, 1952). Y casgliad safonol o'i waith. Adargraffiad diweddaraf (2013) 1996: ISBN 9780708313565
  • Alan Llwyd (gol.), 50 o Gywyddau Dafydd ap Gwilym (Barddas, 1980). Gyda chyflwyniadau a nodiadau.
  • Dafydd Johnston (gol.), Canu Maswedd yr Oesoedd Canol/Medieval Welsh Erotic Poetry (Caerdydd, 1991). Cyfrol sy'n cynnwys testun 'Cywydd y Gal'.
  • Gwaith Dafydd ap Gwilym (Cyfres y Fil), blodeugerdd o weithiau (tybiedig) o ganu DapG (gol O. M. Edwards)

Astudiaethau

Ceir nifer o lyfrau ac erthyglau mewn sawl iaith ar waith Dafydd ap Gwilym. Detholiad yn unig a roddir yma.

  • Rachel Bromwich, Aspects of the poetry of Dafydd ap Gwilym (Caerdydd, 1986)
  • R. Geraint Gruffydd, Dafydd ap Gwilym (Cyfres Llên y Llenor, 1987)
  • Helen Fulton, Dafydd ap Gwilym and the European Context (Caerdydd, 1989)
  • John Rowlands, Dafydd ap Gwilym a Chanu Serch yr Oesau Canol (Caerdydd, 1975)

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Dolen allanol

Gwefan sy'n cynnwys casgliad o'i gerddi Archifwyd 2007-04-28 yn y Peiriant Wayback.



Dafydd Ap Gwilym: Hanes, Ei gerddi, Marwnadau i Ddafydd gan y beirdd  Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Tags:

Dafydd Ap Gwilym HanesDafydd Ap Gwilym Ei gerddiDafydd Ap Gwilym Marwnadau i Ddafydd gan y beirddDafydd Ap Gwilym LlyfryddiaethDafydd Ap Gwilym Gweler hefydDafydd Ap Gwilym CyfeiriadauDafydd Ap Gwilym Dolen allanolDafydd Ap Gwilym13201380Abaty Ystrad FflurAberystwythBeirdd yr UchelwyrCanu serchCerdd DafodCymruCywyddLlanbadarn Fawr

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

HellraiserY Cae RasInstitut polytechnique de ParisCatrin o FerainİzmirLlithrenHuw ChiswellBwrdeistref sirolHiltje Maas-van de KamerChris Williams (academydd)Yr ArianninDydd Gwener y GroglithVolkswagen TransporterMediPidynBarbie & Her Sisters in The Great Puppy AdventureAlldafliad benywCodiadGwalchmai ap GwyarMadeleine PauliacEwropLloegrActorEconomi gylcholCockwoodDafydd ap SiencynCambodiaDe CoreaSposa Nella Morte!Cyfrifiadur personolPen-y-bont ar Ogwr (sir)C'mon Midffîld!Robert III, brenin yr AlbanWyau BenedictDyledSiot dwadKlaipėdaThe Magnificent Seven RideMyrddinCymraegClyst St MaryRhyw tra'n sefyllMamalBreuddwyd Macsen WledigLlenyddiaethCôd postLlywodraethLerpwlYr Apostol PaulThe RewardGlaw20gSyriaCedorPussy RiotDisturbiaBBC OneHebog y GogleddCynnwys rhyddGweddi'r ArglwyddTân yn LlŷnCombeinteignheadSir Gawain and the Green Knight20161996Iago fab SebedeusGlasgwm, Powys🡆 More