Cywydd: Fesur poblogaidd y beirdd ar ddiwedd yr Oesoedd Canol

Y cywydd oedd un o fesurau mwyaf poblogaidd y beirdd ar ddiwedd yr Oesoedd Canol, cymaint felly fel y cyfeirir at Feirdd yr Uchelwyr fel Y Cywyddwyr yn draddodiadol.

Mae'r cywydd yn aros yn un o'r mesurau Cerdd Dafod mwyaf poblogaidd heddiw.

Yn ei hanfod, cwpled o ddwy linell saith sillaf yr un yw'r cywydd. Addurnir y cwpledi â'r gynghanedd.

Cywydd: Fesur poblogaidd y beirdd ar ddiwedd yr Oesoedd Canol
Dafydd ap Gwilym, un o arloeswyr y cywydd (cerflun yn Neuadd Dinas Caerdydd)

Daw'r cywydd i'r golwg yng ngwaith y beirdd yn hanner cyntaf y 14g. Does dim enghraifft o'r mesur yng ngwaith Beirdd y Tywysogion, ond ni ellir profi na dadbrofi nad oedd yn bodoli ar ryw ffurf fel un o fesurau'r Glêr (beirdd isradd) cyn y 14g. Mae Thomas Parry yn damcaniaethu y cafodd un o fesurau poblogaidd y Glêr a adweinir fel y traethodl ei gywreinio a'i ddatblygu i ffurfio'r cywydd ar ddechrau'r 14g.

Yng Ngramadeg Einion Offeiriad (tua 1330?) dywedir fod pedwar math o gywydd:

Ymhlith meistri mawr y cywydd yn yr Oesoedd Canol gellid crybwyll Dafydd ap Gwilym a Llywelyn Goch ap Meurig Hen, dau o'r arloeswyr cynnar, a Gruffudd Gryg a Iolo Goch; Guto'r Glyn, Dafydd Nanmor a Lewys Glyn Cothi yn y ganrif olynol; a Tudur Aled, Lewys Môn a Wiliam Llŷn yn yr 16g.

Cafwyd adfywiad ar y cywydd yn y 18g, diolch yn bennaf i waith beirdd fel Goronwy Owen a Lewis Morris. Roedd Iolo Morgannwg yn medru cyfansoddi cywyddau campus yn ogystal, er iddo dadogi nifer ohonynt ar feirdd canoloesol fel Dafydd ap Gwilym. Er i'r cywydd golli allan i'r awdl eisteddfodol a'r canu telynegol newydd yn y 19g, adenillodd ei fri yn yr 20g ac mae'n aros yn fesur poblogaidd gan y beirdd caeth cyfoes. Mae'n un o fesurau awdl gosod y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Llyfryddiaeth

Cywydd: Fesur poblogaidd y beirdd ar ddiwedd yr Oesoedd Canol 
  • Aneirin Talfan Davies (gol.), Englynion a Chywyddau (Llyfrau'r Dryw). Ceir traethawd byr ond pwysig gan Thomas Parry ar hanes y cywydd.
  • Donald Evans (gol.), Y Flodeugerdd o Gywyddau (1981)
  • Iwan Llwyd a Myrddin ap Dafydd (gol.), Cywyddau Cyhoeddus (Gwasg Carreg Gwalch, 1994)

Tags:

Beirdd yr UchelwyrCerdd Dafod

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

The Great Ecstasy of Robert CarmichaelBlogMetadataPrydainFideo ar alwAneirinLluosiSex TapeL'ultimo Treno Della NotteBerliner FernsehturmShani Rhys James25 EbrillSecret Society of Second Born RoyalsHaulBruce SpringsteenNicelElinor JonesWikipediaFfilm gyffroY Deyrnas UnedigEagle EyeSydney FCDafydd IwanLorasepamBremenCarlwmTraethawdThe Disappointments RoomCaersallogPeiriant WaybackAmanita'r gwybedY Fari LwydGaztelugatxeVita and VirginiaGregor MendelJess DaviesDiawled CaerdyddYr AmerigGorllewin AffricaWelsh TeldiscCyfarwyddwr ffilmBrasilY Weithred (ffilm)Du FuPompeiiFfrangegCaerllionThe Next Three DaysImagining ArgentinaIfan Gruffydd (digrifwr)GwefanEleri LlwydXXXY (ffilm)Catfish and the BottlemenYsgol Dyffryn AmanMoscfa26 EbrillAlexandria RileyRwsiaAwstraliaCrundale, CaintEisteddfodMilanCariadPhilip Seymour HoffmanCaradog PrichardNaturY Brenin a'r BoblAlwyn HumphreysWat.yeDylan EbenezerMichelle Obama🡆 More