Roedd Goronwy Owen (1 Ionawr 1723 - Gorffennaf 1769) yn un o feirdd Cymraeg amlyca'r 18g.
Goronwy Owen | |
---|---|
Ganwyd | 1 Ionawr 1723 Llanfair Mathafarn Eithaf |
Bu farw | Gorffennaf 1769 Brunswick County |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, ysgrifennwr |
Cyflogwr |
Cafodd ei eni ar Ddydd Calan 1723 ym mhlwyf Llanfair Mathafarn Eithaf yng ngogledd-ddwyrain Môn. Cafodd ei addysg ffurfiol yn Ysgol Friars, Bangor a Choleg Yr Iesu, Rhydychen er na arhosodd yn y coleg yn hir. Dysgodd lawer am farddoniaeth gan Lewis Morris. Yn Ionawr 1746 fe'i ordeiniwyd yn weinidog. Yn ddyn ifanc gadawodd Ynys Môn am y tro olaf, a chrwydro i Sir Ddinbych, Croesoswallt, Donnington ac Uppington ger Amwythig, Walton ger Lerpwl, a Northol yn Llundain. Ym mis Tachwedd 1757, hwyliodd gyda'i deulu ifanc i gymryd swydd yng Ngholeg William a Mary yn Brunswick County, Virginia, Unol Daleithiau America. . Bu farw yno ym mis Gorffennaf 1769 heb ddychwelyd yn ôl i Gymru unwaith.
Bu'n berchen ar o leiaf pedwar o gaethwaesion ac mae ei ewyllys yn eu rhestru ymysg ei eiddo: ‘A negro named Peg Old (£12/10s); A negro wench named Young Peg (£40); A [negro] boy, Bob (£30); A [negro] boy, Stephen (£15); A Desk Black Walnut (£3/10s); Six Walnut chairs (£3/10s)...’
Enwir Ysgol Goronwy Owen a Chlwb Pêl-Droed Bro Goronwy ar ei ôl.
Roedd yn fardd, yn fwyaf enwog am ei gerddi am Ynys Môn, er ei fod wedi gadael y Sir am y tro olaf yn 23 oed.
Mae tystiolaeth ei lythyrau niferus at aelodau o gylch y Morrisiaid yn dangos ei fod yn ysgrifennwr rhyddiaith campus yn ogystal. Dyma ei ddisgrifiad o berson Walton, er enghraifft:
Ymhlith y cwpledi sy'n dal i gael eu hadrodd heddiw mae:
a'r cwpled yn yr englyn canlynol:
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Goronwy Owen, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.