Lewis Morris: Llenor a hynafiaethydd, cartograffydd a bardd o Ynys Môn.

Llenor a hynafiaethydd o Ynys Môn a chwareodd ran flaenllaw yn nadeni llenyddol y ddeunawfed ganrif oedd Lewis Morris (2 Mawrth 1701 – 11 Ebrill 1765).

Ei enw barddol oedd Llywelyn Ddu o Fôn. Roedd Lewis yr hynaf o bedwar brawd. Gyda'i frodyr dawnus Richard a William a beirdd a hynafiaethwyr eraill fel Goronwy Owen, Ieuan Fardd a Huw Huws, roedd Lewis yn ffigwr canolog yn y mudiad llenyddol y cyfeirir ati fel Cylch y Morrisiaid.

Lewis Morris
Lewis Morris: Bywgraffiad, Llenor a hynafiaethydd, Llyfryddiaeth
FfugenwLlywelyn Ddu o Fôn Edit this on Wikidata
Ganwyd2 Mawrth 1701 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
Llanfihangel Tre'r Beirdd Edit this on Wikidata
Bu farw11 Ebrill 1765 Edit this on Wikidata
Penbryn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethmapiwr, hynafiaethydd, syrfewr tir, bardd, rhwymwr llyfrau, argraffydd Edit this on Wikidata
TadMorris ap Rhisiart Edit this on Wikidata
PlantWilliam Morris Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

Ganed Lewis Morris yn y Tyddyn Melys, ym mhlwyf Llanfihangel Tre'r-beirdd a'i fagu ar fferm Pentre-eiriannell, ger Penrhosllugwy, Môn. Roedd ei dad Richard Morys yn gowper a saer ac yn hanfod o deulu Bulkeley, ond doedd y teulu ddim yn gefnog a phur caled oedd blynyddoedd cynnar Lewis. Ychydig iawn o addysg ffurfiol a gafodd, ond llwyddodd i ddysgu crefft syrfeio. Yn 1729 roedd yn swyddog dollfa yng Nghaergybi yn casglu'r dreth ar halen. Yn y flwyddyn honno priododd ei wraig gyntaf Elisabeth Griffith, o Dŷ Wydryn ger Caergybi. Cafodd ei gyflogi i wneud arolwg o dir ystad Bodorgan gan Owen Meyrick yn 1734. O 1737 hyd 1744 ymgymrodd â'r dasg anferth o fapio a syrfeio arfordir Cymru, gwaith a gyhoeddywd fel siart a chyfrol o fapau yn 1748.

Yn dirfesurydd symudodd i Geredigion yn 1742 a chafodd y gwaith o ofalu am hawliau'r Goron yn ardaloedd y gweithfeydd plwm yn ardal Pumlumon yn 1744. O 1746 hyd 1757 bu'n byw yng Ngalltfadog, ger Capel Dewi. Priododd ei ail wraig Ann Lloyd o Benbryn, Goginan, yn 1749. Bu farw ym Mhenbryn, yn 1765.

Llenor a hynafiaethydd

Ymddiddorai Lewis Morris yn fawr yn llenyddiaeth Gymraeg y gorffennol. Fel y Morysiaid eraill, gwelai ddiffyg amlwg yn safonau llenyddol ei ddydd a cheisiai newid hynny trwy ymledu gwybodaeth am fawrion y gorffennol fel Dafydd ap Gwilym. Roedd yn gweld yr angen yn ogystal am lenyddiaeth gyfoes ddifyr o safon dda gan fod cynifer o bobl yn troi at lenyddiaeth Saesneg am hynny, ac yn 1735 cyhoeddodd Tlysau yr Hen Oesoedd i'r perwyl hwnnw. Ysgrifennodd nifer fawr o gerddi hwylus, llythyrau a darnau rhyddiaith dychanol yn null llenyddiaeth fwrlesg a ffansïol y ganrif. Cyhoeddwyd rhai ohonynt yn y gyfrol Diddanwch Teuluaidd yn 1763 (sy'n cynnwys hefyd cerddi gan Goronwy Owen ac eraill o Gylch y Morrisiaid). Ond arosodd swmp ei waith llenyddol a hynafiaethol heb ei gyhoeddi yn ei oes, yn cynnwys cyfrol ar hynafiaethau Môn (Celtic Remains), geiriadur, llythyrau llenyddol a cherddi.

Llyfryddiaeth

Gwaith Lewis Morris

  • Tlysau yr Hen Oesoedd (1735)
  • Nifer o'r cerddi yn y gyfrol Diddanwch Teuluaidd (1763)
  • Celtic Remains, gol. Daniel Sylvan Evans (1878)
  • Nifer o'r llythyrau yn y cyfrolau The Letters of Lewis, Richard, William and John Morris (dwy gyfrol, 1907, 1909) a Additional Letters of the Morrises of Anglesey (dwy gyfrol, 1947, 1949), gol. gan J. H. Davies

Astudiaethau

  • Tecwyn Jones, Y Llew a'i deulu (1982)
  • Alun R. Jones, Lewis Morris (Cyfres Dawn Dweud, 2004)
  • Saunders Lewis, A School of Welsh Augustans (1924)
  • Hugh Owen (gol.), The Life and Works of Lewis Morris (1951)

Cyfeiriadau

Tags:

Lewis Morris BywgraffiadLewis Morris Llenor a hynafiaethyddLewis Morris LlyfryddiaethLewis Morris CyfeiriadauLewis Morris11 Ebrill170117652 MawrthCylch y MorrisiaidEnw barddolGoronwy OwenHuw HuwsIeuan FarddLlenyddiaeth Gymraeg y ddeunawfed ganrifRichard MorrisWilliam Morris (1705-1763)Ynys Môn

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

After Porn Ends 2Sir Gawain and the Green KnightSafleoedd rhywThe Tin StarChris Williams (academydd)BangorArabegAmerikai AnzixCaerfyrddinCornelia TipuamantumirriClustogMecsicoMegan Hebrwng MoethusAda LovelaceMintys poethLeonor FiniReturn of The SevenHiltje Maas-van de KamerThe Wilderness TrailAwstralia (cyfandir)Coch y BerllanFfrancodFflorensBeti GeorgeHen BenillionMarie AntoinetteNoson Lawen (ffilm)ContactCombpyneThe Big Town Round-UpUndduwiaethFideo ar alwSpring SilkwormsLos AngelesEfrog22Battles of Chief PontiacKlaipėdaAaron RamseyAnimeAled Lewis EvansKathleen Mary FerrierLlyn CelynMacOSCyfieithiadau i'r GymraegJames Francis Edward StuartCaryl Parry JonesDiwydiant llechi CymruLoganton, PennsylvaniaAyalathe AdhehamCaersallogSimon BowerTeyrnasPornoramaDylunioLlun FarageEisteddfod Genedlaethol CymruRule BritanniaBusty CopsHanes JamaicaİzmirDohaIago II & VII, brenin Lloegr a'r AlbanJennifer Jones (cyflwynydd)Cerdd DantLlwyau caru (safle rhyw)Unol Daleithiau AmericaCaveat emptorByseddu (rhyw)Gêm fideoForbesCronfa CraiRiley ReidAbertawe (sir)🡆 More