Mae Eleri Llwyd (ganwyd tua 1951) yn gantores boblogaidd Gymraeg, a fu'n fwyaf toreithiog yn y 1970au.
Eleri Llwyd | |
---|---|
Ganwyd | 1950s |
Man preswyl | Llanuwchllyn |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | athro, canwr |
Tad | Huw Lloyd Edwards |
Priod | Elfyn Llwyd |
Ganwyd Eleri yn ferch i'r dramodydd Huw Lloyd Edwards. Cyfarfu a'i gŵr, Elfyn Llwyd pan oedd yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth a priododd y ddau ar 27 Gorffennaf 1974. Mae ganddynt ddau blentyn, Catrin Mara a Rhodri Llwyd. Mae Catrin Mara yn actores a bu'n actio yn y gyfres Pobol y Cwm.
Cymhwysodd fel athrawes a cyn ymddeol roedd yn athrawes Saesneg yn Ysgol y Berwyn, Y Bala.
Rhyddhaodd Eleri Llwyd ei sengl cyntaf, "Merch fel Fi" ar label Sain yn 1971 a'r un flwyddyn enillodd gystadleuaeth Cân i Gymru gyda chân boblogaidd Dewi 'Pws' Morris, "Nwy yn y Nen".
Bu'n aelod o'r grwpiau 'Y Nhw' ac 'Y Chwyldro' ond fel cantores unigol y mae'n fwyaf adnabyddus. Yn 1977 rhyddhaodd ei record hir, Am heddiw mae 'nghân. Disgrifiodd y canwr Gruff Rhys ei harddull fel 'prog gwerin-opera-disgo'. Ail-ryddhawyd yr albwm gan Sain yn Awst 2018. Mae copïau gwreiddiol o'r albwm yn gwerthu am dros £100.
Yn ogystal â "Nwy yn y Nen" cân adnabyddus arall a ganwyd gan Eleri Llwyd oedd "O Gymru" gan Rhys Jones, sydd, hefyd yn cael ei chanu gan gorau. Cafwyd fersiwn gyfoes o'r gân, gyda llais Eleri Llwyd arni, gan Gai Toms.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Eleri Llwyd, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.