Iaith Slafonaidd Ddwyreiniol yw'r Wcreineg.
Hon yw iaith swyddogol Wcráin a phrif iaith yr Wcreiniaid. Siaredir hefyd gan gymunedau Wcreinaidd yng Nghasachstan, Moldofa, Gwlad Pwyl, Rwmania, Lithwania, a Slofacia. Fe'i ysgrifennir gan ddefnyddio'r wyddor Gyrilig. Mae rhywfaint o gyd-ddealltwriaeth rhwng yr Wcreineg a'r Felarwseg a'r Rwseg, ac ohonyn nhw y tarddodd yn y 12fed a'r 13g. Fel y Felarwseg, mae ynddi lawer o eirfa a fenthyciwyd o'r Bwyleg.
Enghraifft o'r canlynol | iaith naturiol, iaith fyw |
---|---|
Math | Slafeg dwyreiniol |
Rhagflaenwyd gan | Rwtheneg |
Rhagflaenydd | Rwtheneg, Hen Rwtheneg |
Enw brodorol | українська мова |
Nifer y siaradwyr | |
cod ISO 639-1 | uk |
cod ISO 639-2 | ukr |
cod ISO 639-3 | ukr |
Gwladwriaeth | Wcráin, Rwsia, Gwlad Pwyl, Canada, Casachstan, Belarws, Rwmania, Slofacia, Serbia, Unol Daleithiau America, Hwngari, tsiecia, Moldofa |
Rhanbarth | Dwyrain Ewrop, Canolbarth Ewrop |
System ysgrifennu | Yr wyddor Gyrilig |
Corff rheoleiddio | Academi Genedlaethol Gwyddorau Wcráin, Institiwt yr Iaith Wcreineg, Sefydliad Ieithyddiaeth Potebnia, Commissioner for the Protection of the State Language |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r Wcreineg yn iaith asiadol (fusional), enwol-gwrthrychol (nominative-accusative), ac mae'n defnyddio arddodiaid i gyfleu cyfeiriad a natur symud (satellite framed). Mae'r iaith yn gwahaniaethu rhwng 'ti' a 'chi', ac mae'n gallu gollwng y goddrych (null-subject). Trefn arferol y frawddeg yw Goddrych-Berf-Gwrthrych (SVO). Mae trefnau eraill yn gyffredin oherwydd y rhyddid y mae system ffurfdroi'r iaith yn ei ganiatáu.
Mae gan enwau un o 3 chenedl: gwrywaidd, benwyaidd, diryw; maen nhw'n ffurfdroi yn ôl:
Mae ansoddeiriau'n cytuno gydag enwau yn ôl cenedl, cyflwr a rhif.
Ceir 4 amser i'r ferf yn Wcreineg:
Wszystkie czasowniki mają dwa aspekty – dokonany (доконаний) і niedokonany (недоконаний).
Mae'r amser gorberffaith wedi'i golli yn yr Wcreineg modern, fel yn Pwyleg, yn y bôn nid yw'n cael ei ddefnyddio. Erbyn hyn, mae o'n cael ei ystyried yn hynafol. Ar lafar, prin y'i defnyddir o gwbl; dim ond mewn arddull lenyddol y gall ymddangos.
Mae'n bosib gwahaniaethu dau grŵp o dafodieithoedd Wcreineg – gogleddol a deheuol. O fewn y grŵp deheuol ceir dau is-grŵp, gorllewinol a dwyreiniol (gweler y llun):
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Wcreineg, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.