Cerddor, canwr a pherfformiwr Cymraeg yw Gai Toms.
Ei enw genedigol yw Gareth J. Thomas (ganwyd 14 Medi 1976 ym Mangor, Gwynedd).
Gai Toms | |
---|---|
Ganwyd | 14 Medi 1976 Bangor |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | canwr-gyfansoddwr |
Arddull | canu gwerin |
Priod | Sara Ashton |
Gwefan | https://www.gaitoms.com/ |
Cychwynnodd Gai Toms ei yrfa fel cerddor pan gyd-ffurfiodd y band roc/ska Cymraeg poblogaidd Anweledig efo Michael Jones (gitâr) a Rhys Roberts (bâs) ar Ŵyl San Steffan 1992.
Bu Gai'n perfformio o dan y llysenw Mim Twm Llai rhwng 1997 a 2007. Mae Gai hefyd wedi gweithio fel actor ar y teledu, yn ogystal â chyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer y teledu a'r theatr. perfformiodd hefyd yn y Smithsonian Folklife Festival a SXSW yn yr Unol Daleithiau.
Rhyddhaodd Gai yr albwm eco-gysyniadol Rhwng y Llygru a'r Glasu o dan ei enw ei hun yn 2008, a arweiniodd at ddwy wobr Roc a Phop (RAP) BBC Radio Cymru, y naill am y telynegwr gorau, a'r llall am artist gorau y flwyddyn honno. Recordiodd Gai yr albwm yn ei gartref yn nhref Blaenau Ffestiniog, Gwynedd gan ddefnyddio ynni glân a drymiau a achubwyd o domennydd sbwriel. Cafodd y gwaith celf ar glawr yr albwm a'r deunydd pecynnu hefyd eu cynhyrchu o ddeunyddiau wedi eu hailgylchu. Mae pob can ar yr albwm yn ymdrin â chwestiynau am gynaladwyedd yn ogystal â'n bodolaeth a'n pwrpas yn y byd. Defnyddiwyd ystod eang o arddulliau cerddorol ar yr albwm hwn, gan gynnwys y felan 'wenfflam' a rymba 'iard sbwriel'. Yr albwm hwn oedd y cyntaf i ymddangos o dan label Gai, Recordiau Sbensh.
Fel arfer, bydd Gai Toms yn perfformio yn ei iaith gyntaf, sef Cymraeg. Ym mis Tachwedd 2012 cyhoeddodd Gai ei fod yn bwriadu rhyddhau albwm ddwbl o ddwy ar hugain o ganeuon newydd o'r enw Bethel fydd yn cynnwys deg cân werin eu naws 'wreiddiol, amrwd a bythol' a deuddeg 'clasur aml-arddull' ym mis Rhagfyr 2012
Daeth Gai Toms yn ail yng nghystadleuaeth Cân i Gymru yn 2010 gyda'r gân Deffra. Llwyddodd Gai i gyrraedd y rownd derfynol Cân i Gymru unwaith yn rhagor yn 2011, gan ddod yn drydydd y tro hwn gyda'r gân Clywch. Ond ar y trydydd cynnig i'r Cymro - yn 2012 - cipiodd y wobr gyntaf gyda'r gân: Braf yw Cael Byw.
Bu Gai yn canu gitâr a llais i'r grŵp mwy diweddar o Flaenau Ffestiniog, Brython Shag o 2014 ymlaen.
Mae Gai Toms yn rhestru Meic Stevens, Bob Delyn a'r Ebillion, Tom Waits, Manu Chao, Super Furry Animals, John Prine, Django Rheinhardt, Old Crow Medicine Show a Devendra Banhart fel dylanwadau ar ei waith.
Ym mis Ionawr 2011, cyhoeddwyd fod Gai Toms yn un o gant oedd wedi gwrthod talu eu trwydded teledu, fel rhan o brotest Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn erbyn y cynlluniau arfaethedig i dorri cyllideb y sianel deledu Gymraeg S4C, a'r bwriad i drosglwyddo cyfrifoldeb ariannu'r sianel i ddwylo'r BBC.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Gai Toms, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.