Rhanbarth hanesyddol yng Nghanolbarth Asia sy'n gartref i bobloedd Dyrcig yr ardal honno yw Tyrcestan.
Ffiniau'r rhanbarth yw Siberia i'r gogledd; Tibet, India, Affganistan, ac Iran i'r de; anialwch y Gobi i'r dwyrain; a Môr Caspia i'r gorllewin. Nid oedd Tyrcestan yn cynnwys yr holl bobloedd Dyrcig, gan yr oedd y Tyrciaid yn byw yng nghyn-Ymerodraeth yr Otomaniaid a'r Tyrco-Tatariaid yn byw ger Afon Volga. Roedd pobloedd eraill yn byw yn Nhyrcestan nad oeddynt yn Dyrcig, megis y Tajiciaid. Rhennir Tyrcestan yn ddau gan fynyddoedd Pamir a Tien Shan. Heddiw mae Gorllewin Tyrcestan yn cynnwys Tyrcmenistan, Wsbecistan, Tajicistan, Cirgistan, a de Casachstan, ac mae Dwyrain Tyrcestan yn cynnwys Xinjiang yng Ngweriniaeth Pobl Tsieina.
Math | rhanbarth |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Cyfesurynnau | 39.365733°N 67.955584°E |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Tyrcestan, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.