Birmingham: Dinas yn Lloegr

Dinas fawr yn sir Gorllewin Canolbarth Lloegr, yn rhanbarth Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Birmingham.

Fe'i lleolir mewn ardal di-blwyf ym mwrdeistref fetropolitan Dinas Birmingham.

Birmingham
Birmingham: Dinas yn Lloegr
Birmingham: Dinas yn Lloegr
Mathmetropolis, dinas, ardal ddi-blwyf, tref goleg, city of United Kingdom Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolDinas Birmingham, Swydd Warwick
Poblogaeth1,137,100 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 7 g Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethYvonne Mosquito Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Saesneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGorllewin Canolbarth Lloegr
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd267.77 ±0.01 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr140 ±1 metr Edit this on Wikidata
GerllawTame Valley Canal, Afon Tame, Afon Rea Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.48°N 1.9025°W Edit this on Wikidata
Cod postEdit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethYvonne Mosquito Edit this on Wikidata

Datblygodd yn y Chwyldro Diwydiannol, ond mae ganddi gwreiddiau yn yr Oesoedd Canol. Rhoddwyd statws dinesig swyddogol iddi yn 1889. Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan ardal adeiledig Birmingham boblogaeth o 1,085,810. Birmingham yw dinas ail fwyaf y Deyrnas Unedig ar ôl Llundain, ac mae hi'n ffurfio rhan sylweddol o ardal ddinesig Gorllewin Canolbarth Lloegr, a oedd â chyfanswm o 2,736,460 o bobl yn byw yno yn 2011 ac chynhwysa nifer o drefi a dinasoedd cyfagos megis Solihull, Wolverhampton a threfi'r Black Country. Ceir nifer o barciau a chamlesi yn y ddinas. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, hi oedd y ddinas Seisnig a effeithwyd yn fwyaf gan yr ymgyrch bomio Almeinig.

Yn ystod y Chwyldro Diwydiannol roedd y ddinas yn ganolbwynt y chwyldro yn Lloegr, ac o ganlyniad gelwir Birmingham yn "weithdy'r byd" a "dinas o fil o grefftau". Er i bwysigrwydd Birmingham fel dinas ddiwydiannol leihau, mae wedi datblygu i fod yn ganolfan fasnachol genedlaethol, ac fe'i henwyd yr ail le gorau yn yr Deyrnas Unedig i leoli busnes a'r 14eg yn Ewrop gan Cushman & Wakefield yn 2009. Hyhi yw'r ddinas bedwaredd fwyaf o ran y nifer o ymwelwyr o dramor sy'n mynd yno hefyd.

Yn 2007, rhoddwyd Birmingham yn ddinas 55ed hawsaf i fyw ynddi yn y byd a'r ail ddinas hawsaf i fyw ynddi yn y Deyrnas Unedig, yn ôl Rhestr Mercer o safonau byw rhyngwladol. Mae gan Birmingham yr economi dinesig ail fwyaf yn y Deyrnas Unedig, a chyrhaeddodd rif 72nd yn y byd yn 2008.

Gelwir pobl o Birmingham yn 'Brummies', term sy'n tarddu o ffugenw'r ddinas - 'Brum'. Daw hyn o enw tafodieithol y ddinas, Brummagem, a allai fod wedi dod o un o enwau blaenorol y ddinas, 'Bromwicham'. Mae yna dafodiaith ac acen Brummie unigryw gan drigolion y ddinas, sy'n wahanol i'r hyn a geir yn y Black Country cyfagos. Mae'n bosib fod yr enw'n cyfeirio at lwyth Celtaidd a drigai yma yn amser y Rhufeiniaid gan iddyn nodi'r ystyr fel "cartref llwyth y Beorma" ("homestead/village of Beorma's people'")

Enwogion

  • Jeffery Farnol (1878-1952), nofelydd
  • Tony Hancock (1924-1968), comediwr
  • Jenny Joseph (g. 1932), bardd
  • Jasper Carrott (g. 1945), comediwr a cherddor
  • Robin Nedwell (1946-1999), actor
  • Carl Palmer (g. 1954), cerddor


Cyfeiriadau

Dolen allanol

Birmingham: Dinas yn Lloegr  Eginyn erthygl sydd uchod am Gorllewin Canolbarth Lloegr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Tags:

Dinas BirminghamGorllewin Canolbarth Lloegr (rhanbarth)Gorllewin Canolbarth Lloegr (sir)

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

9 EbrillCelyn JonesNewfoundland (ynys)Storio dataAngel HeartYnni adnewyddadwy yng NghymruNasebyWici CofiEmma TeschnerYnysoedd FfaröeTeotihuacánIron Man XXXRobin Llwyd ab OwainSt PetersburgLeo The Wildlife RangerDagestanAligatorYsgol RhostryfanRichard Wyn JonesNia ParryGwainDiwydiant rhywEroticaIncwm sylfaenol cyffredinolTeganau rhywJava (iaith rhaglennu)JulianAdnabyddwr gwrthrychau digidolPensiwnOutlaw KingBae CaerdyddGwlad PwylData cysylltiedigGwlad27 TachweddRhif Llyfr Safonol RhyngwladolR.E.M.Rhian MorganRhisglyn y cyllFfilm llawn cyffroPrwsiaCynnwys rhyddCrefyddGeometregSiôr III, brenin y Deyrnas UnedigTalcott ParsonsCopenhagenArwisgiad Tywysog CymruAnilingus18951942Dirty Mary, Crazy LarryHuw ChiswellDenmarcIn Search of The CastawaysHenoDulynIwan LlwydEsblygiadArbeite Hart – Spiele HartSeiri RhyddionCynanOmanParamount PicturesGuys and Dolls🡆 More