Prifddinas talaith Shaanxi yng nghanolbarth Gweriniaeth Pobl Tsieina yw Xi'an (Tsieineeg: 西安; pinyin: Xī'ān).
Roedd y boblogaeth yn 2002 yn 2,872,539 gyda 7.5 miliwn yn yr ardal ddinesig. Hen enw'r ddinas oedd Chang'an (Tsieineeg wedi symleiddio: 长安; Tsieineeg traddodiadol: 長安; pinyin: Cháng'ān).
Math | rhanbarth lefel is-dalaith, dinas fawr, dinas lefel rhaglawiaeth, mega-ddinas, cyn-brifddinas, dinas hynafol, provincial capital |
---|---|
Poblogaeth | 12,952,907 |
Cylchfa amser | UTC+08:00 |
Gefeilldref/i | Iași, Cairo, Isfahan, Nara, Kalamata, Konya, Jeddah, Lower Hutt, Caeredin, Dortmund, Lahore, Funabashi, Gyeongju, Dnipro, Istanbul, Brasília, Pompei, Athen, Birmingham, Cuzco, Taupō, Dinas Kansas, Kathmandu, Québec, Kyoto, Pau, Veliko Tarnovo, Veliko Tarnovo Municipality, Jinju, Samarcand, Montgomery County, Valencia, George Town, St Petersburg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Shaanxi |
Sir | Shaanxi |
Gwlad | Gweriniaeth Pobl Tsieina |
Arwynebedd | 10,096.81 km² |
Uwch y môr | 405 metr |
Cyfesurynnau | 34.2611°N 108.9422°E |
Cod post | 710000 |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Q106085453 |
Saif Xi'an ar afon Wei he, yn weddl agos at ei chymer gyag afon Huang He. Yma yr oedd pen dwyreiniol Ffordd y Sidan. Bu'n brifddinas Tsieina yng nghyfnod Brenhinllin Tang, ac roedd y boblogaeth dros filiwn yn y cyfnod yma.
Ystyrir y ddinas fel un o ganolfannau hen wareiddiad Tsieina. Roedd prifddinas Brenhinllin Qin gerllaw, ac yma mae y Fyddin Derracotta enwog, sy'n gwarchod bedd yr ymerawdwr cyntaf, Qin Shi Huangdi.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Xi'an, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.