Istanbul: Tref fwyaf Twrci

Istanbul (Twrceg: İstanbul, hefyd 'Stamboul; Cymraeg: Istanbwl) yw dinas fwyaf Twrci a'i ganolfan ddiwyllianol a masnachol bwysicaf.

Cyn i Atatürk ei symud i Ankara yn 1923, Istanbul oedd prifddinas y wlad. Yr hen enw arni oedd Caergystennin (Lladin: Constantinopolis, Groeg: Κωνσταντινούπολις, Twrceg: Konstantinopolis), cyn 1930, a Byzantium yng nghyfnod yr Ymerodraeth Fysantaidd.

Istanbul
Delwedd:Istanbul Montage 2016.png, ISS043-E-159631 - View of Earth.jpg
Mathbwrdeistref fetropolitan Twrci, cyn-brifddinas, mega-ddinas, y ddinas fwyaf, dinas â phorthladd, dinas fawr, prifddinas, dinas hynafol Edit this on Wikidata
Poblogaeth15,462,452 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 29 Mai 1453 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethEkrem İmamoğlu Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+03:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Daearyddiaeth
SirTalaith Istanbul Edit this on Wikidata
GwladBaner Twrci Twrci
Arwynebedd5,343 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr100 metr Edit this on Wikidata
GerllawBosphorus, Môr Marmara, Y Môr Du, Hafan Euraid Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau41.01°N 28.9603°E Edit this on Wikidata
Cod post34000–34990 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
mayor of Istanbul Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethEkrem İmamoğlu Edit this on Wikidata
Istanbul: Geirdarddiad, Hanes, Hinsawdd
Tu mewn Mosg Aghia Sophia yn Istanbul

Heddiw, mae tua 15,462,452 (2020) o bobl yn bwy ynddi. Saif ar lannau Culfor Bosphorus ac mae'n amgau'r harbwr naturiol a adnabyddir fel y Corn Euraidd (Twrceg: Haliç, Saesneg Golden Horn). Mae rhan o'r ddinas ar dir Ewrop (Thrace) a'r gweddill yn Asia (Anatolia); hi yw'r unig ddinas fawr yn y byd sy'n sefyll ar ddau gyfandir. Mae hefyd yn brif ddinas Talaith Istanbul.

Istanbul yw'r unig ddinas yn hanes y byd sydd wedi bod yn brifddinas i dair ymerodraeth wahanol, sef yr Ymerodraeth Rufeinig (330–395), yr Ymerodraeth Fysantaidd (395–1453) a'r Ymerodraeth yr Otomaniaid (1453–1923). Dewisiwyd y ddinas yn Brifddinas Diwylliant Ewropeaidd am 2010. Ychwanegwyd rhannau hanesyddol yr hen ddinas, ar y lan Ewropeaidd, at Restr Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO yn 1985. Yn 2018, daeth dros 13.4 miliwn o ymwelwyr tramor i Istanbul gan wneud y ddinas yn bumed gyrchfan twristiaid mwyaf poblogaidd y byd.

Geirdarddiad

Dywedir bod y gair 'Istanbul' yn deillio o'r ymadrodd Groeg Canoloesol "εἰς τὴν Πόλιν", sy'n golygu "i'r ddinas". Adlewyrchwyd pwysigrwydd Caergystennin yn y byd Otomanaidd hefyd gan ei lysenw "Der Saadet" sy'n golygu'r "y porth i Ffyniant" yn eu hiaith nhw..

Hanes

Mae arteffactau Oes Newydd y Cerrig (y Neolithig), a ddatgelwyd gan archaeolegwyr ar ddechrau'r 21g, yn dangos bod penrhyn hanesyddol Istanbul wedi'i wladychu mor bell yn ôl â'r 6ed mileniwm CC. Roedd hyn yn bwysig yn lledaeniad y Chwyldro Neolithig o'r Dwyrain Agos i Ewrop, am bron i fileniwm cyn cael ei boddi gan lefelau dŵr yn codi. Daw'r anheddiad dynol cyntaf ar yr ochr Asiaidd, sef y 'Twmpath Fikirtepe', o'r cyfnod Oes Efydd, gydag arteffactau'n dyddio o 5500 i 3500 CC. Ar yr ochr Ewropeaidd, ger pwynt y penrhyn (Sarayburnu), roedd anheddiad Thraciaaidd yn gynnar yn y mileniwm 1af CC.

Mae hanes y ddinas, fel y cyfryw, yn cychwyn tua 660 BCE, pan daeth ymsefydlwyr Groegaidd o Megara gan sefydlu Byzantium ar ochr Ewropeaidd y Bosphorus. Adeiladodd yr ymsefydlwyr acropolis ger yr Corn Aur ar safle aneddiadau Thraciaidd cynnar, gan danio economi'r ddinas eginol. Profodd y ddinas gyfnod o gael ei rheoli gan Bersia ar droad y 5g CC, ond fe'i hailgipiwyd hi gan y Groegiaid yn ystod y Rhyfeloedd Greco-Persia.

Yna parhaodd Byzantium fel rhan o Gynghrair Athenia a'i olynydd, Ail Gynghrair Athenia, cyn ennill annibyniaeth yn 355 CC. Bu'n gysylltiedig â'r Rhufeiniaid am gyfnod hir, a daeth Byzantium yn swyddogol yn rhan o'r Ymerodraeth Rufeinig yn 73 OC.

Costiodd penderfyniad Byzantium i ochri gyda’r swyddog milwrol Rhufeinig Pescennius Niger yn erbyn yr Ymerawdwr Septimius Severus yn ddrud; erbyn i'r ddinas ildio ar ddiwedd 195 OC, roedd dwy flynedd o warchae wedi gadael y ddinas wedi ei anrheithio. Bum mlynedd yn ddiweddarach, dechreuodd Severus ailadeiladu Byzantium, ac adenillodd y ddinas - ac, yn ôl rhai cyfrifon, rhagorodd - ar ei gwychder blaenorol.

Hinsawdd

Mae gan Istanbul hinsawdd is-drofannol laith (Dosbarthiad hinsawdd Köppen: Cfa), gyda 808 mm o wlybaniaeth y flwyddyn.

Yn gyffredinol, mae'r hafau yn boeth ac yn glos gyda thymheredd cyfartalog o 26–28 °C a thymheredd isaf o 16–19 °C. Fodd bynnag, mae'r tymheredd yn pasio 32 °C am tua 5 diwrnod bob haf. Ond nid haf yw'r graddau o difrifol a hir y gorllewin a'r de Twrci.

Tuedda'r gaeafau i fod yn oer, gyda thymheredd uchaf cyfartalog o 8–10 °C a thymheredd isaf o 3–5 °C, ond gall y tymheredd ostwng cymaint a'r −5 °C am rai dyddiau. Weithiau gall y tymheredd godi i hyd at y 15 °C yn ystod y gaeaf. Eira a rhew yn gyffredin yn y gaeaf. Ar gyfartaledd ceir yno 19 o ddiwrnodau o eira yn flynyddol, ac ar gyfartaledd ceir yno 21 o ddiwrnodau o rhew yn flynyddol.

Cyfnewidiol yw'r tywydd yn y gwanwyn a'r hydref, a gall fod yn oer neu'n gynnes, er fod y cyfnodau hyn yn bleserus gan amlaf oherwydd y lleithder isel.

Mis Ion Chwe Maw Ebr Mai Meh Gor Aws Med Hyd Tach Rhag Cyfartaledd Blwyddyn
Uchafbwynt cyfartalog °C 8.5 9.0 10.8 15.4 20.0 24.5 26.5 26.7 23.6 19.1 14.7 10.8 17.47
Cyfartaledd °C 5.6 5.7 7.0 11.1 15.7 20.4 22.8 23.0 19.7 15.6 11.4 8.0 13.83
Isafbwynt cyfartalog °C 3.2 3.1 4.2 7.7 12.1 16.5 19.5 20.0 16.8 13.0 8.9 5.5 10.88
Dyodiad mm 105.3 77.3 71.8 44.9 34.1 34.0 31.6 39.8 57.9 87.7 101.3 122.6 808.3 (Cyfanswm dyodiad)
Ffynonellau:Weatherbase – Istanbul Swyddfa Feteorolegol Twrceg.

Adeiladau a chofadeiladau

  • Caferağa Medresseh
  • Cumhuriyet Anıtı
  • Eglwys Pammakristos
  • Hagia Sofia
  • Haseki Hürrem Sultan Hamamı
  • Mosg Glas
  • Obelisg Theodosius
  • Palas Dolmabahce
  • Palas Ihlamur
  • Palas Maslak
  • Palas Topkapi
  • Palas Yildiz
  • Tŵr Galata
  • Tŵr GarantiBank

Pobl o Istanbul

  • Constantine Mavrocordatos (1711–1769), Tywysog Wallachia.
  • Alexander Ypsilantis (1725–1805), Tywysog Wallachia.
  • Halide Edip Adıvar (1884–1964), nofelydd a gwleidydd.
  • Bülent Ecevit (1925–2006), gwleidydd ac awdur.
  • Hülya Koçyiğit (g. 1947), actores.

Cyfeiriadau

Tags:

Istanbul GeirdarddiadIstanbul HanesIstanbul HinsawddIstanbul Adeiladau a chofadeiladauIstanbul Pobl o Istanbul CyfeiriadauIstanbul19231930AnkaraAtatürkByzantiumCaergystenninCymraegGroegLladinPrifddinasTwrcegTwrciYr Ymerodraeth Fysantaidd

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

HwngaregCrëyr nos.caFirwsNot The Bradys XxxThe Greatest ShowmanCapel y NantSigarétConnecticutSeland NewyddDe EwropRhiannonHovel in the HillsArf niwclearCyfathrach rywiol19eg ganrifCaerwys1982Dört Ateşli YosmaGamba Gamba a FfrindiauDic JonesWrecsamSaint Kitts a NevisOlympus MonsYr Undeb SofietaiddMetadataHollt GwenerBusty CopsPatxaranForlorn RiverUncle FrankAlex HarriesImmanuel KantYnysoedd y FalklandsC (iaith rhaglennu)ISO 4217Aneirin KaradogAnna VlasovaAragonegGwenynen9/11 EntschlüsseltBarddTwfaYr HolocostISO 3166-1Y we fyd-eang12 MaiPolle FictionFinding NemoEdward y CyffeswrNefynGwasg argraffuSamoaLlwyau caru (safle rhyw)Saddam HusseinBellevue, IdahoRichie ThomasWitless ProtectionSalakoPlant DuwLa Monte Young2010Uwch-destunRhithwirY ffliwEglwys Sant CynhaiarnCall Me By Your Name🡆 More