Archdderwydd: Pennaeth Gorsedd y Beirdd

Yr Archdderwydd yw llywydd Gorsedd y Beirdd, ac sydd felly yn llywyddu ar brif ddefodau Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

Er mai Iolo Morgannwg oedd y cyntaf i lywyddu'r Orsedd pan y'i sefydlwyd, ei olynydd, David Griffiths, dan yr enw barddol "Clwydfardd" oedd yn cyntaf i'w adnabod gyda'r teitl swyddogol.

Archdderwydd
Enghraifft o'r canlynolgalwedigaeth, teitl corfforaethol Edit this on Wikidata
Matharweinydd mudiad, prif swyddog Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaEisteddfod Genedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Ers 1932, dim ond enillwyr blaenorol o'r Goron neu'r Gadair sy'n gymwys i fod yn Archdderwydd. Erbyn cychwyn yr 21G, ehangwyd hyn i gynnwys enillwyr y Fedal Ryddiaith a'r cyntaf i'w ethol dan y rheol yma oedd Robyn Llŷn (Robyn Léwis) (2002–05). Christine James, a ddaeth yn Archdderwydd yn 2013, oedd y fenyw gyntaf a'r dysgwr Cymraeg cyntaf (h.y. unigolyn lle nad oedd y Gymraeg yn famiaith) i ddal y teitl.

Ers yr Ail Ryfel Byd, dim ond yn Archdderwydd sydd wedi gwasanaethau mwy nag un cyfnod tair blynedd. Etholwyd Albert Evans-Jones ("Cynan") yn 1950 ac eto yn 1963, ac fe'i ystyrir yn ddylanwad rhyddfrydol ar yr ŵyl; derbyniodd yn gyhoeddus nad oedd gan yr eisteddfod fodern gysylltiad uniongyrchol â derwyddiaeth hynafol. Fe'i urddwyd yn farchog yn 1969 am ei wasanaeth i ddiwylliant Cymreig, yr unig Archdderwydd i dderbyn y teitl.

Yn dilyn gohirio Eisteddfod Genedlaethol 2020 oherwydd Pandemig COVID-19, penderfynwyd ymestyn cyfnod yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd. Newidiwyd y rheolau hefyd er mwyn penn tymor pob Archdderwydd bellach yn ymestyn dros dair Eisteddfod yn hytrach na thros dair blynedd.

Rhestr Archdderwyddon

Archdderwydd: Pennaeth Gorsedd y Beirdd 
Clwydfardd yr Archdderwydd cyntaf
Archdderwydd: Pennaeth Gorsedd y Beirdd 
Cynan (canol); 1956


Enw Enw barddol Cyfnod yn y swydd
David Griffiths Clwydfardd 1876-1894 Archdderwydd: Pennaeth Gorsedd y Beirdd 
Rowland Williams Hwfa Môn 1895-1905 Archdderwydd: Pennaeth Gorsedd y Beirdd 
Evan Rees Dyfed 1905-1923 Archdderwydd: Pennaeth Gorsedd y Beirdd 
John Cadvan Davies Cadvan 1923-1924 Archdderwydd: Pennaeth Gorsedd y Beirdd 
Howell Elvet Lewis Elfed 1924-1928 Archdderwydd: Pennaeth Gorsedd y Beirdd 
John Owen-Williams Pedrog 1928-1932 Archdderwydd: Pennaeth Gorsedd y Beirdd 
John Jenkins Gwili 1932-1936 Archdderwydd: Pennaeth Gorsedd y Beirdd 
John James Williams J.J. 1936-1939 Archdderwydd: Pennaeth Gorsedd y Beirdd 
William Crwys Williams Crwys 1939-1947 Archdderwydd: Pennaeth Gorsedd y Beirdd 
William Evans Wil Ifan 1947-1950 Archdderwydd: Pennaeth Gorsedd y Beirdd 
Albert Evans-Jones Cynan 1950-1953 Archdderwydd: Pennaeth Gorsedd y Beirdd 
John Dyfnallt Owen Dyfnallt 1954-1957 Archdderwydd: Pennaeth Gorsedd y Beirdd 
William Morris Moi Plas 1957-1960 Archdderwydd: Pennaeth Gorsedd y Beirdd 
Edgar Phillips Trefin 1960-1962
Albert Evans-Jones Cynan 1963-1966 Archdderwydd: Pennaeth Gorsedd y Beirdd 
E. Gwyndaf Evans Gwyndaf 1966-1969
Gwilym Richard Tilsley Tilsli 1969-1972
Brinley Richards Brinli 1972-1975
R. Bryn Williams Bryn 1975-1978
Geraint Bowen Geraint 1978-1981
James Nicholas Jâms Nicolas 1981-1984
W. J. Gruffydd Elerydd 1984-1987
Emrys Roberts Emrys Deudraeth 1987-1990
William George Ap Llysor 1990-1993
John Gwilym Jones John Gwilym 1993-1996
Dafydd Rowlands Dafydd Rolant 1996-1999
Meirion Evans Meirion 1999-2002
Robyn Lewis Robin Llŷn 2002-2005
Selwyn Griffith Selwyn Iolen 2005-2008
Dic Jones Dic yr Hendre 2008-2009
T. James Jones Jim Parc Nest 2009-2013
Archdderwydd: Pennaeth Gorsedd y Beirdd 
Jim Parc Nest; 2011
Christine James Christine 2013-2016
Geraint Lloyd Owen Geraint Llifon 2016-2019
Myrddin ap Dafydd Myrddin ap Dafydd 2019-2024
Mererid Hopwood Mererid Hopwood 2024-2027

Cyfeiriadau

Archdderwydd: Pennaeth Gorsedd y Beirdd  Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Tags:

David Griffiths (Clwydfardd)Eisteddfod Genedlaethol CymruGorsedd y BeirddIolo Morgannwg

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

ElectronGeometregBilboYr AlmaenYmlusgiad4 ChwefrorURLYsgol Cylch y Garn, LlanrhuddladRhif Llyfr Safonol RhyngwladolThe Salton SeaMilanPwtiniaethLaboratory ConditionsSant ap CeredigCyfrifegAngeluSlumdog MillionaireGwyddor Seinegol RyngwladolGemau Olympaidd yr Haf 2020Gwenan EdwardsRia JonesAristotelesMacOSWalking TallOriel Gelf GenedlaetholGlas y dorlanAni Glass13 AwstTŵr EiffelAfon Tyne1977Geraint JarmanGwilym PrichardY DdaearGhana Must GoSylvia Mabel PhillipsTimothy Evans (tenor)24 EbrillCaethwasiaethRhestr enwau Cymraeg ar lefydd yn LloegrRhyfel y CrimeaGwibdaith Hen FrânGwainEilianSiot dwadRhyw tra'n sefyllAmerican Dad XxxCyhoeddfaCaint22 MehefinY Cenhedloedd UnedigPobol y CwmFack Ju Göhte 3Yokohama MaryMyrddin ap DafyddCalsugnoSefydliad ConfuciusCilgwriEternal Sunshine of the Spotless MindP. D. JamesDonostiaSteve JobsTeotihuacánRSSCapel CelynDal y Mellt (cyfres deledu)🡆 More